Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Cwestiynau Cyffredin


Cofrestru

Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinair. Help!

Os wyt ti wedi anghofio dy gyfrinair, clicia ‘logio i mewn’ ar frig y dudalen a bydd yn mynd i’r adran logio i mewn. Yma byddet yn gallu dod o hyd i dy gyfrinair.

Beth fyddwch chi’n ei wneud gyda data sy’n perthyn i mi?

Ni fydd CLIC fyth yn trosglwyddo dy fanylion i drydydd parti, nac yn cysylltu ‚ thi heb dy ganiat‚d. Cedwir dy wybodaeth yn ddiogel oherwydd bod preifatrwydd yn bwysig i ni.

Beth fyddaf yn ei dderbyn os arwyddaf i ymuno â’ch rhestr bostio?

O bryd i’w gilydd efallai y bydd CLIC yn cysylltu ‚ thi gyda newyddion a diweddariadau am y prosiect. Rydym hefyd yn anfon deunydd allan yn rheolaidd o dy ardal leol. Gall dynnu dy enw o’r rhestr tanysgrifio unrhyw bryd, naill ai o’r tu mewn i CLIC neu drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio ar waelod yr e-bost. Gall hefyd newid dy hoffterau o’r tu mewn i “Fy CLIC”.

Pam ydych chi’n gofyn yr holl gwestiynau hyn i mi?

Rydym yn awyddus i ddysgu mwy amdanoch chi, defnyddwyr CLIC, i sicrhau bod CLIC mor dda ag y dymunwch iddo fod a’n bod yn gwneud newidiadau i weddu i’ch anghenion. Mae arnom angen yr wybodaeth hefyd i wybod faint o bobl ifanc sy’n defnyddio CLIC ac oherwydd hyn weithiau gallwn ofyn i ti gwblhau arolwg cyflym i gasglu dy adborth a dy farn. Paid ‚ phoeni, ni fyddwn fyth yn rhannu dy fanylion, ac efallai y bydd cyfle i ti ennill gwobrau da!

Rydw i’n byw mewn un sir, ond hoffwn dderbyn gwybodaeth am siroedd eraill.

Rydym yn deall efallai y bydd gen ti ddiddordeb mewn newyddion a diweddariadau o siroedd eraill. Os hoffet gael dy ddiweddaru am beth sy’n mynd ymlaen mewn ardal arall, logia i “Fy CLIC” a gall reoli dy hoffterau. Gall hefyd logio i mewn i safleoedd CLIC lleol eraill gan ddefnyddio’r un enw defnyddiwr a chyfrinair.

Cyflwyno Newyddion

Alla’ i gyflwyno cynnwys i CLIC yn y Gymraeg?

Gallet. Mae’r safle yn gwbl ddwyieithog. Efallai y gall y broses safoni gymryd ychydig yn hwy oherwydd bydd angen i ni drefnu cyfieithiad.

Alla’ i ddefnyddio unrhyw ffotograffau neu fideos yn fy eitem newyddion?

Gwaherddir defnyddio cynnwys wedi ei warchod gan hawlfraint ar safle CLIC neu safleoedd rhanbarthol yn gyfan gwbl. Os wyt ti’n ansicr am ddelwedd neu fideo arbennig, cofia gysylltu efo dy olygydd lleol neu ‚ thÓm gwe CLIC a all roi cyngor i ti. Dylid cyhoeddi ffotograffau neu fideos dim ond os ydynt a) wedi eu creu gennyt ti, b) yn rhai y rhoddwyd caniat‚d i ti gan yr awdur i’w ddefnyddio i’r pwrpas hwn, neu c) mae’r ffoto neu’r fideo yn cael eu rhyddhau o dan drwydded greadigol gyffredin neu maent yn rhai nad oes breindal ynghlwm wrthynt. Ystyria ychwanegu diolch am y ffoto (enw’r person a’i cymerodd) a lincia i unrhyw ffotograff ti’n defnyddio sydd ddim yn un o rai ti.

Mae gennyf farn gref am rywbeth, alla’ i ei rhannu ar CLIC?

Wrth gwrs. CLIC ydy dy lwyfan di i rannu a thrafod beth bynnag sy’n bwysig i ti. Rydym yn croesawu pob barn a safbwynt, ond rydym yn gofyn i ti leisio’r rhain mewn modd sy’n ystyriol i ddefnyddwyr eraill y safle. Mae hyn yn arbennig o berthnasol wrth drafod materion y mae pobl yn teimlo’n angerddol yn eu cylch. Gall golygydd dy gynghori i aralleirio rhywfaint o dy stori, os gellid ystyried fod hyn yn dramgwyddus i bobl eraill.

Y Broses Safoni

Rydw i wedi cyflwyno eitem newyddion. Nawr beth?

Unwaith bydd dy stori yn cael ei chyflwyno mae’n ymuno â rhestr i’w safoni. Dyma’r broses lle mae golygydd lleol neu aelod o’r Grwp Golygyddol yn darllen drwy dy stori ac yn gwirio unrhyw ddolennau, ffotograffau a fideos i fynd gyda hi i sicrhau ei bod yn addas i’w chyhoeddi. Gallant hefyd edrych am unrhyw wallau gramadegol a gwallau sillafu. Cyn gynted ag y maent yn hapus fod dy stori yn bodloni’r gofynion, bydd yn ymuno ‚’r rhestr o storÔau i gael eu gosod yn fyw (y broses o ganiat·u iddi fod yn weladwy ar y wefan).

Bydd yr eitem yn ymddangos ar y wefan ranbarthol y cyflwynwyd iddi. Ond yn ystod y broses safoni, gall y Golygydd Cenedlaethol neu aelod o’r tÓm golygyddol nodi dy eitem fel un i’w phostio yn genedlaethol. Mewn geiriau eraill, os ydy dy eitem yn ymwneud ag ardal arall o Gymru gellir ei dewis i ymddangos ar y safle hwnnw yn ogystal. Yn ystod y broses hon bydd dy stori yn cael ei dosbarthu hefyd o dan un neu nifer o’r penawdau gwybodaeth - e.e. iechyd, addysg - sy’n golygu y gall ymddangos fel ‘eitem newyddion cysylltiedig’ pan fo pobl yn mynd drwy dudalennau gwybodaeth am y pwnc hwnnw.

Pa fath o eitem fyddai’n cael ei dewis ar gyfer y safle cenedlaethol?

Bydd y Golygydd Cenedlaethol yn cynnwys rhai storÔau ar safle cenedlaethol CLIC. Gall stori gael ei dewis ar gyfer y safle cenedlaethol os yw golygydd yn teimlo ei bod yn arbennig o dda. Gellid seilio hyn ar y pwnc neu’r cynnwys. Bydd unrhyw newyddion sy’n gysylltiedig ‚ CLIC yn ymddangos ar y safle cenedlaethol. Ni all gyflwyno dy waith dy hun i fod yn genedlaethol; mae’n rhaid iddo gael ei ddewis gan olygydd.

Gwrthodwyd fy eitem newyddion. Pam?

Mae nifer o resymau pam y gallai eitem newyddion fethu’r broses safoni, fel pe bai dy eitem yn cynnwys gormod o regi neu gynnwys tramgwyddus, bod ynddi unrhyw ddelweddau neu fideo gyda hawlfraint, neu pe tybid bod y cynnwys yn anaddas ar gyfer CLIC. Os yw’r broblem yn ymwneud ‚ delwedd fideo gyda hawlfraint, gall y golygydd ddewis gosod dy stori yn fyw heb y ddelwedd/fideo arbennig honno. Bydd y golygydd hefyd yn gwneud m‚n newidiadau i unrhyw iaith sy’n anaddas. Os ystyrir bod yr eitem yr wyt wedi ei phostio yn dramgwyddus, gellir cymryd camau pellach, a all arwain at rewi dy gyfrif. Gall y golygydd ddewis cysylltu ‚ thi a dy gynghori am unrhyw newidiadau y dylid eu gwneud er mwyn unioni’r broblem.

Rydw i wedi dod o hyd i rywbeth sy’n peri tramgwydd i mi, beth alla’ i ei wneud?

Ar bob tudalen o CLIC, chwilia am y botwm bach ‘adroddwch am hwn’. Bydd clicio ar y botwm hwn yn dangos y stori i’w hadolygu gan olygydd. Nid yw’n cuddio’r stori ar unwaith, ond byddwn yn ymateb i unrhyw hysbysiadau o fewn 24 awr. Pe bai’n benwythnos, neu os wyt ti’n teimlo fod angen sylw brys ar y cynnwys, cysyllta ‚ thÓm CLIC ar info@cliconline.co.uk

Mae fy Nigwyddiad i wedi cael i’w wrthod. Pam?

Caiff digwyddiadau eu safoni yn yr un modd ag eitemau newyddion pan gyflwynir nhw i CLIC neu’r safleoedd rhanbarthol. Bydd y canolwr neu’r golygydd lleol hefyd yn gwirio i weld bod eich digwyddiad yn addas i gael ei hyrwyddo ar CLIC. Bydd y broses hon yn cynnwys gwirio i weld a yw’r lleoliad yn un gwirioneddol ac y bydd y math o ddigwyddiad yn addas ar gyfer yr oed a nodir. Er enghraifft, os wyt ti wedi cyflwyno dy barti pen-blwydd fel digwyddiad ar CLIC byddai’n cael ei wrthod. Yn yr un modd bydd unrhyw ddigwyddiadau nad ydynt yn cael eu cynnal mewn lle cyhoeddus, e.e. parti yn nhy Paul, neu rywle yr ydym yn gwybod sy’n anniogel, neu yr amheuir ei fod felly, yn cael ei wrthod. Gall ein golygyddion lleol gysylltu ‚ thi drwy e-bost os dymunant ofyn mwy o gwestiynau am dy ddigwyddiad.

Proffiliau Defnyddwyr

Dydw i ddim am i bobl wybod pwy ydw i.

Gellir analluogi dy broffil o’r tu mewn i ‘Fy CLIC’. Er y bydd dy enw defnyddiwr yn ymddangos wrth yr eitemau rwyt ti wedi eu cyflwyno, pan fydd rhywun yn clicio arno, y cyfan y bydd yn ei ddangos yw tudalen yn nodi bod eich proffil yn breifat. Mae CLIC yn llwyfan i ti ddysgu, mynegi dy hun a rhannu dy brofiadau mewn amgylchedd diogel. Mewn rhai sefyllfaoedd efallai y byddi di’n teimlo yn fwy cysurus yn cadw dy hunaniaeth yn breifat ac rydym yn parchu hyn. Fyddwn ni fyth yn dweud pwy wyt ti os wyt ti yn dewis gwarchod dy hunaniaeth. Cer i weld ein tudalennau diogelwch ar-lein am fwy o gyngor am aros yn ddiogel ar-lein ac am awgrymiadau ar gyfer defnyddio proffiliau CLIC.

Grwpiau Golygyddol Pobl Ifanc

Rwy’n sylwi fod gan rai defnyddwyr fegaffon wrth eu henw, beth yw hwn? A sut galla’ i gael un?

Mae’r eicon hwnnw yn cynrychioli’r ffaith fod y defnyddiwr yn aelod o’r Grwp Golygyddol ar gyfer ei safle lleol neu genedlaethol. Gweler Cwestiynau Cyffredin – Beth mae’r Grwp Golygyddol yn ei wneud? a Chwestiynau Cyffredin - Sut y gallaf ymuno?

Beth mae’r Grwp Golygyddol yn ei wneud?

Rhan o brosiect CLIC yw helpu i ddatblygu grwpiau golygyddol o bobl ifanc sydd â diddordeb ym mhob sir a all lywio’r wefan a’i chynnwys. Mae’r grwpiau hyn yn cyfarfod yn rheolaidd yn bersonol ac ar-lein i drafod sut mae’r gwefannau yn rhedeg ac yn gweithredu fel gohebyddion, gan ennill sgiliau a phrofiad ar hyd y ffordd.

Grwp Golygyddol Cenedlaethol

Ffurfiwyd y Grŵp Golygyddol Cenedlaethol wrth i brif safle CLIC gael ei ddatblygu. Buont yn cymryd rhan mewn cwrs preswyl a helpu i ail-ysgrifennu’r wybodaeth oedd yn bresennol yn ein hadran gwybodaeth. Ynghyd ‚ grwpiau o siroedd ar draws Gymru, ymgynghorwyd ‚ nhw ynghylch y dyluniad a’r cysyniad. Mae’r grŵp hwn o bobl ifanc yn rhannol gyfrifol am safoni cynnwys a byddant yn helpu i ddatblygu prosiectau ac ymgyrchoedd, a rheoli ein proffiliau rhwydweithio cymdeithasol. Mae gan y bobl ifanc brwdfrydig yn y grŵp hwn sgiliau ardderchog y gallant eu cyfrannu, gan ddarparu eu barn a gweithredu fel cynrychiolwyr i bobl ifanc eraill ynghylch sut y dylid datblygu’r wefan. Mae cyfrannu fel hyn yn caniat·u i bobl ddatblygu eu sgiliau, a dysgu rhai newydd gyda’r cyfle i ennill achrediad a phrofiad gwaith gwerthfawr. Os wyt ti’n teimlo yr hoffet gyfrannu ac yr hoffet gymryd rhan ac ymuno ‚’r grŵp, Golygydd Cenedlaethol CLIC, Ryan Heeger ar y ffôn ar 07515 566518 neu drwy e-bost Ryan@CLIConline.co.uk

Grwpiau Golygyddol Lleol

Bydd gan bob sir yng Nghymru, neu byddant yn y broses o ddatblygu Grwp Golygyddol. Mae’r rolau'r un fath ag ar gyfer bod yn aelod o Grwp Golygyddol, ond ar lefel leol gyda chyfarfodydd rheolaidd.

Sut y gallaf ymuno?

Cysyllta â Golygydd Cenedlaethol CLIC, Ryan Heeger, ar y ffôn ar 07515 566518 neu drwy e-bost yn Ryan@CLIConline.co.uk

Sefydliadau

Sut y gallaf gyflwyno fy sefydliad?

Am wybodaeth ar gofrestru sefydliad cysylltwch â Swyddog Gwybodaeth a Safon Ansawdd CLIC, Claire Gardner, ar 01495 708028 neu claire@cliconline.co.uk

Sut y caiff sefydliadau eu safoni?

Mae’r broses safoni ar gyfer sefydliadau ychydig yn wahanol. Fel rhan o’n hymroddiad i ddarparu gwybodaeth gywir a defnyddiol, gofynnir i unrhyw sefydliad sy’n dymuno cyflwyno eu manylion i gael eu rhestru ar gyfarwyddiaduron lleol a/neu genedlaethol CLIC i ddarparu rhai asedau cyn cael eu rhestru. Wedi i chi gofrestru gofynnir i chi lawrlwytho ac argraffu ffurflen, a fydd yn rhoi manylion am y camau nesaf a beth sydd arnom ei angen gennych. Yna bydd un o safonwyr y sefydliadau yn cysylltu â chi.

Mae fy manylion wedi newid, sut y gallaf ddiweddaru fy ngwybodaeth ar CLIC?

Os oes angen i chi ein hysbysu am newid manylion cyswllt neu am unrhyw ymholiad arall am restriad eich sefydliad, cysylltwch â thîm gwybodaeth CLIC ar info@cliconline.co.uk

Cyfryngau Eraill

Beth y gallaf ei gyflwyno i gyd-fynd â’m stori?

Gall cyflwyno hyd at bum delwedd (mae jpg., gif, png yn fathau o ffeil a gefnogir) ac un fideo sy’n rhaid cael ei lwytho i wefan sy’n derbyn fideos a fydd yn cynhyrchu URL i ti. Y gwefannau derbyn fideo a ddefnyddir yn fwyaf cyffredin yw YouTube a Vimeo. Rho URL dy fideo dewisedig pan fyddi di’n cyflwyno dy erthygl a bydd yn ymddangos ger dy stori. Nid oes gennym y cyfleuster ar hyn o bryd i lwytho ffeiliau MP3 dy hun, ond os hoffet ychwanegu un, gall aelod o dîm gwe CLIC wneud hynny i ti. E-bostia ni ar webteam@cliconline.co.uk. Neu beth am greu fideo gyda dy MP3 a’i chyflwyno felly?

Mae gennyf fideo rwy’n meddwl y dylech ei ychwanegu at chwaraewr cyfryngau CLIC.

Os ydy dy fideo yn perthyn i un o’r 10 o brif benawdau gwybodaeth yna gellid rhoi sylw iddo yn chwaraewr cyfryngau CLIC, neu ar un o’r tudalennau gwybodaeth. Gall ddewis naill ai ei e-bostio atom ar video@cliconline.co.uk neu bostio DVD at ProMo Cymru, Uned 13, Gweithdai Royal Stuart , Adelaide Place, Caerdydd CF10 5BR

Ar ba fformat yr hoffech ei gael?

Yn ddelfrydol hoffem gael y fideo mewn quicktime movie (.mov) .avi neu mp4. Paid â phryderu os nad ydy dy fideo yn un o’r fformatau hyn ac na alli di ei drosi. Rydym ni yma i helpu.

Amrywiol

Beth yw sianel ‘RSS’?

Mae RSS yn golygu ‘Really Simple Syndication’ ac yn fyr mae’n borthiant i gynnwys deinamig o wefan. Mae’r porthiant yn cynnwys delweddau testun a dolennau ac yn cael ei diweddaru yn awtomatig. Gallwch danysgrifio i’r porthwyr hyn, sy’n golygu eu bod yn dy hysbysu pan ychwanegir rhywbeth at y safle. Felly, os wyt ti’n tanysgrifio i’r porthwyr newyddion RSS ar CLIC, diweddarir bob yn hyn a hyn gyda’r newyddion diweddaraf a ychwanegwyd. Gall edrych ar y porthwyr RSS hyn o dy borwr, darllenydd RSS neu’r rhan fwyaf o ffonau symudol. Y fantais o ddefnyddio porthwyr RSS yw y gall weld cynnwys o bob un o dy hoff wefannau mewn un lle, neu wrth symud o gwmpas. Mae CLIC yn cynnwys nifer o borthwyr RSS i ddewis ohonynt a’r dewis o greu un eich hun. Felly er enghraifft gall ddewis porthwyr RSS o unrhyw newyddion wedi ei dagio gyda ‘cherddoriaeth’. Os wyt ti’n defnyddio porwr gwe modern (Firefox, Safari neu Internet Explorer 7 ac uwch) byddet yn gallu tanysgrifio i borthwyr o’r tu mewn i dy borwr. CLICia ar y ddolen i’r porthwyr RSS a chlicia ‘tanysgrifia yn awr’. Gellir canfod esboniad mwy cynhwysfawr ar RSS yn Wikipedia.

Mae’r fideo YouTube a gyflwynais gyda fy eitem newyddion wedi ei dileu, pam?

O bryd i’w gilydd bydd YouTube yn dileu fideos. Gallai hyn fod am nifer o resymau ac mae hyn yn anffodus allan o’n rheolaeth ni. Er na fedri di olygu dy stori wedi iddi gael ei chyflwyno, gall cysylltu ag aelod staff a all naill ei dileu neu ei hamnewid.

Mae gen i broblem yn edrych ar neu yn cael mynediad i nodweddion ar safle CLIC.

Pryd bynnag y bo hynny’n bosib, rydym wedi ceisio darparu fformatau eraill ar gyfer cyfryngau yr ydym yn gwybod y gellir eu rhwystro gan rai cyfrifiaduron. Ond os oes gan ti unrhyw broblemau wrth edrych ar neu’n cael mynediad at rannau o safle CLIC, cysyllta â thîm gwe CLIC ar webteam@cliconline.co.uk neu cyflwyna docyn cymorth yma a byddwn yn ceisio ei ddatrys cyn gynted â phosib.

Mae gennyf awgrym ar gyfer CLICarlein.

Rydym wrth ein bodd yn cael eich adborth ac yn arbennig eich syniadau, felly e-bostia dîm gwe CLIC ar webteam@cliconline.co.uk gyda dy awgrymiadau. Cofia fod CLIC yn safle sy’n esblygu yn gyson sydd angen dy gyfraniadau di i’w wneud yn well byth!