Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Cyflwyno Fideos

CLICwylio

Mae CLICwylio yn ychwanegiad newydd i'r rhwydwaith CLICarlein, yn darparu sianel ar-lein un-pwrpas i arddangos cynnwys fideo creadigol wedi'i greu gan bobl ifanc yng Nghymru.

CLICarlein ydy'r cylchgrawn ar-lein i bobl ifanc yng Nghymru. Mae'n le i ddarganfod a rhannu newyddion, gwybodaeth, cyngor a chael dweud dy ddweud.

Mae'r gwasanaeth hwn yn gwbl ryngweithiol, golygai hyn gallet gyflwyno ffilmiau dy hun, gadael sylwadau ar beth ti'n weld, graddio pob fideo a rhannu nhw ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol fel Facebook a Twitter. Bydd rhai o'r fideos hefyd yn cael eu dangos ar clicarlein.co.uk.

Mae CLICwylio yn cynnig chwaraewr teledu ar orchymyn yn ogystal â dewis dyddiol o raglenni, newyddion a nodweddion i gadw ti mewn cysylltiad â beth sydd yn digwydd.

Sut mae'n gweithio?

Mae unrhyw un a phawb yn gallu llwytho fideos i CLICwylio. Yr unig beth sydd yn rhaid gwneud ydy cofrestru.

Unwaith ti wedi cofrestru, bydd tab newydd ''ychwanegu fideo' yn ymddangos sydd yn galluogi ti i lwytho fideos o dy gyfrifiadur a hyd yn oed mewnblannu fideos o wefannau eraill fel YouTube neu Vimeo.

Ar ôl llwytho'r fideo bydd ein golygydd yn edrych arno (i sicrhau nad yw'n sarhaus, ymosodol, enllibus neu'n ddi-chwaeth) ac yna'n ei osod yn fyw.

Bydd cofnod o dy holl gyflwyniadau yn cael ei gadw a pan fydd dy ddegfed ffilm yn cael ei gyflwyno byddet yn cael hwdi CLIC!

Gwybodaeth dechnegol

  1. Dylai’r fideos ddilyn y ffurf ganlynol: .wmv .mov .mp4
  2. Dylai maint y ffeil ddim bod yn fwy na 250Mb

Rydym yn edrych ymlaen at weld eich fideos a rhannu nhw ar y rhwydwaith CLICarlein!

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50