Sut y gallaf i gymryd rhan?
Gall unrhyw un gyda syniad, barn, profiad, erthygl neu ffotograff yr hoffent eu rhannu gyda phobl ifanc eraill gyfrannu at CLIC. Y cyfan sydd angen i ti ei wneud yw cofrestru ar www.clicarlein.co.uk a dilyn y cyfarwyddiadau syml am sut i gyflwyno cynnwys dy hun. Mae bod yn aelod cofrestredig yn rhoi cyfle i chi roi sylwadau hefyd ar erthyglau eraill.
Rhan o brosiect CLIC hefyd yw helpu i ddatblygu Grwpiau Golygyddol cenedlaethol a lleol o bobl ifanc sydd â diddordeb a all lywio’r gwefannau a’r cynnwys. Mae’r grwpiau hyn yn cyfarfod yn rheolaidd yn bersonol ac ar-lein i drafod sut mae’r gwefannau yn gweithio a gweithredu fel gohebyddion, gan ennill sgiliau a phrofiad ar hyd y ffordd.
Ond os nad ydy ysgrifennu yn apelio atat ond dy fod yn dal i fod eisiau dweud dy ddweud neu fod yn gysylltiedig â CLIC, gall:
- Gadael dy sylwadau i ni ar y tudalennau perthnasol
- Ychwanega ni ar un o’n proffiliau rhwydweithio cymdeithasol
- Creu dy broffil rhwydweithio cymdeithasol dy hun. Os oes gen ti brosiect neu hoffet ddechrau grwp neu broffil ar gyfer dy ardal, sefydliad neu grwp golygyddol lleol gallet ddarganfod awgrymiadau a phwyntiau pwysig ar ein tudalennau diogelwch ar-lein.
Grwp Golygyddol Cenedlaethol
Ffurfiwyd y Grwp Golygyddol Cenedlaethol wrth i brif safle CLIC gael ei ddatblygu. Bu’r aelodau yn cymryd rhan mewn cwrs preswyl a helpu i ailysgrifennu’r wybodaeth oedd yn ein hadran gwybodaeth yn barod. Ynghyd â grwpiau o siroedd ar draws Cymru, roeddent efo mewnbwn cryf yn nyluniad a chysyniad CLIC. Mae’r grwp hwn o bobl ifanc yn gyfrifol yn rhannol hefyd am safoni cynnwys a datblygu prosiectau ac ymgyrchoedd, wrth reoli ein proffiliau rhwydweithio cymdeithasol. Mae gan y bobl ifanc frwdfrydig yn y grwp hwn sgiliau ardderchog y gallant eu cyfrannu, gan ddarparu eu barn a gweithredu fel cynrychiolwyr i bobl ifanc eraill ynghylch sut y dylid datblygu’r wefan. Mae cyfrannu fel hyn nid yn unig yn caniatáu i bobl ddatblygu eu sgiliau, ond hefyd i ddysgu rhai newydd gyda’r cyfle i ennill achrediad a phrofiad gwaith gwerthfawr.
Os wyt ti’n teimlo gallet gyfrannu a hoffet gymryd rhan ac ymuno â’r grwp, cer i grwpiau golygyddol a chysylltu â’r Golygydd Cenedlaethol, Ryan Heeger ar y ffôn ar 07515 566518 neu drwy e-bost ryan@cliconline.co.uk
Grwpiau Golygyddol Lleol
Bydd gan bob sir yng Nghymru grwp golygyddol neu byddant yn y broses o ddatblygu un. Mae rolau’r un fath ag ar gyfer bod yn aelod o’r Grwp Golygyddol Cenedlaethol, ond ar lefel leol gyda chyfarfodydd rheolaidd.
Sut y gallaf ymuno?
Cysyllta â’r Golygydd Cenedlaethol CLIC, Ryan Heeger, ar y ffôn ar 07515 566518 neu drwy e-bost ryan@cliconline.co.uk



