Brwydr y Bandiau CLIC 2010
Stadiwm y Mileniwm
Dydd Sadwrn 18 Medi
Nawr yn ei ail flwyddyn, mae Brwydr y Bandiau CLIC 2010 yn digwydd yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd, ar ddydd Sadwrn 18 Medi fel rhan o Sgiliau Cymru, digwyddiad sgiliau a gyrfaoedd mwyaf Cymru. Disgwylir 20,000 o bobl dros dri diwrnod.
Bydd y pum band/artist sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn perfformio ar lwyfan Lolfa’r Arlywydd, sydd yn dal 250 o bobl, ac yn cael eu beirniadu gan banel o arbenigwyr yn y diwydiant. Bydd yr enillwyr wedyn yn chwarae set 20-munud ar y prif lwyfan i lawr ar gae’r stadiwm o flaen y mynychwyr i gyd.
Yn ogystal â’r teitl Pencampwyr BYB CLIC, bydd yr act fuddugol yn derbyn rhestr o wobrau sydd yn tyfu fel mae’r dyddiad yn agosáu, gan gynnwys:
- Wythnos o amser stiwdio gyda chynhyrchydd sefydledig - ProMo-Cymru
- Recordio a thorri demo ar CD ac MP3 - ProMo-Cymru
- Datganiad i’r wasg i fynd allan gyda’r demo - ProMo-Cymru
- Saethu fideo cerddoriaeth proffesiynol gyda Subjective Realities
- Dosbarthiad digidol i 100+ o allfeydd fyd eang (gan gynnwys iTunes) - Emu Bands
- Sesiwn tynnu lluniau proffesiynol gyda ALX MLS Photographic
- Atgyweiriad MySpace proffesiynol - Burning Red Studio
- Bagiau nwyddau Blue Banana
- Cyfweliad ac erthygl yng nghylchgrawn Golwg
- Slotiau gigs yn nigwyddiadau Cymru-gyfan CLIC trwy gydol y flwyddyn
- Proffil artist efo lluniau yn y CLICzine sydd yn cael ei ddosbarthu i bob un ysgol, coleg, prifysgol a darparwyr ieuenctid yng Nghymru
Mae’r frwydr ar agor i fandiau ac artistiaid 11-25 oed sydd yn byw yng Nghymru.
Dylai bandiau e-bostio linc i’w tudalen MySpace i botb@cliconline.co.uk.
Dyddiad cau ymgeision ydy dydd Gwener 30 Gorffennaf.
Bydd pleidleisio yn digwydd ar-lein o ddydd Llun 2 i ddydd Mawrth 31 Awst.
Bydd y rhai sydd yn y rownd derfynol yn derbyn costau teithio i ac o Stadiwm y Mileniwm ar gyfer y band a 15 o gefnogwyr.
Ymgeisiwch ar www.cliconline.co.uk/cym/byb
Ymgeiswyr BYB diweddaraf
Add Mission
Addison Avenue
After an Alibi
Alternative Expression
Arcadius Kebabus
Athena
Bee to the Itch
Cheviot Hill
Christie Connolly
Clay Statues
Conquer the decade
Fallen From Grace
Flash Burn Centric
High Demand
I am absolute
Inconsiderate Parking
Indie Go Modem
Inside The Virus
Junk DNA
King Louis collective
Levin St.
Love The Judge
Man of the Hour
Motive
No Lights At Lock Down
Nothing New
Painting Bus stops
Queensbury
Raphaelites
Riot City Saints
Say When
Solace Awaits
Son Capson
Sound The Attack
The Alpha Theory
The Calling Card
The Dead Crows
The Decoy
The Horizons
The Hotel Ambush
The Lay-lows
The Operators
The Vintage Sound
Twice my size
Without Your Reflection
Y Cer
Yr Angen/The Need



