Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Brwydr y Bandiau // Polisi Preifatrwydd

Polisi Preifatrwydd

Mae eich preifatrwydd ar y Rhyngrwyd yn bwysig i ni. Fel rhan o’n gweithrediadau, rydym yn casglu mathau arbennig o wybodaeth am CLIC, a hoffem egluro’r mathau o wybodaeth a gasglwn, beth a wnawn gyda hi a sut i gywiro neu newid yr wybodaeth.

Gwybodaeth a Gesglir

Rydym yn casglu dau fath o wybodaeth sy’n adnabod pobl yn bersonol gan ddefnyddwyr: data personol (fel enwau a chyfeiriadau e-bost); a data wedi ei grynhoi (fel gwybodaeth am batrymau trafnidiaeth ar CLIC, er enghraifft faint o ddefnyddwyr sy’n logïo i mewn i CLIC bob dydd).

Data Personol

Cesglir data personol pan fo defnyddwyr yn darparu data personol i ni, er enghraifft wrth gofrestru am gylchlythyrau electronig, i ddod yn ffan o artist arbennig, neu wasanaethau aelodaeth eraill, wrth ateb arolygon, prynu eitemau oddi wrthym, a chofrestru am gystadlaethau a chyfleoedd hyrwyddo eraill a ddarperir gan CLIC neu noddwyr cystadlaethau a chyfleoedd hyrwyddo o’r fath. Rydym hefyd yn casglu cyfeiriadau e-bost defnyddwyr sy’n postio negeseuon i’n byrddau negeseuon a’n hardaloedd sgwrsio.

Gwybodaeth wedi ei hagregu

Cesglir gwybodaeth wedi ei hagregu, fel pa dudalennau mae defnyddwyr yn ymweld â nhw a gwybodaeth a roddir gan ddefnyddwyr, fel gwybodaeth arolygon a/neu gofrestriadau am safleoedd, drwy nifer o ddulliau. Er enghraifft, mae CLIC yn casglu cyfeiriadau IP. Cyfeiriad IP yw’r rhif a roddir yn awtomatig i’ch cyfrifiadur pryd bynnag yr ydych yn syrffio’r we. Mae serfwyr y We, y cyfrifiaduron sy’n “cyflwyno” tudalennau’r We, yn adnabod eich cyfrifiadur yn awtomatig yn ô l ei gyfeiriad IP, a phan ofynnwch am dudalen gennym ni, mae ein serfwyr yn logïo eich cyfeiriad IP. Nid ydym yn cysylltu cyfeiriadau IP ag unrhyw beth y gellir ei adnabod yn bersonol, felly er y bydd eich sesiwn wedi ei logïo, byddwch yn parhau yn ddienw i ni. Rydym yn casglu cyfeiriadau IP i bwrpas gweinyddu’r system ac i ddarparu data wedi ei agregu i hysbysebwyr am faint o ddefnydd a wneir ar CLIC.

Defnyddio Cwcis

Rydym hefyd yn defnyddio “cwcis” i gasglu gwybodaeth. Mae cwci yn ffeil data fechan y mae’r rhan fwyaf o brif Wefannau yn ei hysgrifennu i’ch gyrrwr caled i bwrpas cadw cofnodion pan ymwelwch â nhw. Mae cwcis yn caniatáu i ni fesur gweithgaredd ar safle CLIC (“Safle”) ac i wella eich profiad fel defnyddiwr, er enghraifft drwy gofio eich cyfrineiriau ac edrych ar hoffterau, a chaniatáu i chi felly ymweld â nifer o rannau o’r safle sydd ar gyfer aelodau yn unig heb ailgofrestru. Defnyddir cwcis gennym ni i fesur gweithgaredd ar y Safle a gwneud gwelliannau a diweddariadau yn seiliedig ar ba feysydd sy’n boblogaidd a pha rai sydd ddim. Nid ydym yn defnyddio cwcis i dynnu gwybodaeth o’ch cyfrifiadur na chafodd ei hanfon yn wreiddiol mewn cwci.

Mae’r rhan fwyaf o borwyr wedi eu gosod i ddechrau i dderbyn cwcis. Pe bai’n well gennych, gallwch osod eich un chi i wrthod cwcis neu i dynnu eich sylw pan fo cwcis yn cael eu hanfon. Ond mae’n bosib na fydd rhai rhannau o’r Safle, fel yr ardaloedd i aelodau yn unig, yn gweithredu’n briodol os gwnewch hynny.

Defnyddio Gwybodaeth a Gasglwyd

Mae CLIC yn defnyddio’r wybodaeth bersonol a’r wybodaeth wedi ei hagregu a gasglwn i bwrpasau amrywiol. Defnyddir yr wybodaeth i wella cynnwys y Safle, i addasu’r cynnwys a/neu gynllun y Safle ar gyfer pob defnyddiwr unigol ac i hysbysu defnyddwyr am ddiweddariadau i’r Safle neu gynigion hyrwyddo neu gyfleoedd a gredwn fydd o ddiddordeb i chi. Yn ychwanegol, bydd unrhyw gynnwys a gyflwynwch i’r Safle (fideos, pleidleisio, sylwadau ac ati) ar gael yn gyhoeddus. O bryd i’w gilydd gall gweithwyr archwilio’r cynnwys hwn neu ymddygiad defnyddwyr eraill i gadarnhau nad yw Amodau a Thelerau’r Defnydd yn cael eu tramgwyddo. Pan anfonwch e-bost neu ddull arall o gyfathrebu at CLIC, gallwn gadw’r cyfathrebiadau hynny er mwyn prosesu eich ymweliadau, ymateb i’ch ceisiadau a gwella ein gwasanaethau.

Mae CLIC yn rhannu gwybodaeth wedi ei hagregu gyda thrydydd parti i bwrpas hysbysebu a hyrwyddo. Gall CLIC rannu gwybodaeth bersonol gyda noddwyr cystadlaethau a chyfleoedd hyrwyddo ar y Safle hwn. Gall CLIC hefyd rannu gwybodaeth bersonol gyda thrydydd parti heb eu sgrinio ymlaen llaw i bwrpas marchnata neu hyrwyddo. Bydd CLIC yn ceisio rhoi cyfle i ddefnyddwyr wrthod y gwasanaeth hwn pan ofynnir am wybodaeth o’r fath gennych ar-lein.

Gall CLIC hefyd rannu gwybodaeth gydag ymgynghorwyr a sefydliadau cyswllt i bwrpas busnes mewnol a gall ddatgelu gwybodaeth bersonol os caiff gwybodaeth o’r fath ei gwysio, neu os yw CLIC yn credu bod unrhyw ddefnyddiwr wedi cyflawni gweithredoedd anghyfreithlon neu weithredoedd sy’n peryglu iechyd neu ddiogelwch defnyddiwr arall neu’r cyhoedd. Mewn rhai sefyllfaoedd, byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol, yn gyfrinachol, gyda thrydydd parti sy’n cyflawni gwasanaeth arbennig ar eich rhan, fel anfon negeseuon ebost. Gall CLIC hefyd gael ei werthu neu ei drosglwyddo i endid arall. Pe bai digwyddiad o’r fath yn digwydd, bydd gwybodaeth cwsmeriaid wrth gwrs yn un o’r asedau a drosglwyddir.

Gall CLIC ddefnyddio cwmnïau hysbysebu trydydd parti i gyflwyno hysbysebion pan ymwelwch â ’r Safleoedd. Gall y cwmnïau hyn ddefnyddio gwybodaeth (heb gynnwys eich enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost neu rif ffô n) am eich ymweliadau â ’r Safle ac i safleoedd Gwe eraill er mwyn darparu hysbysebion ar y Safle hwn a safleoedd eraill am nwyddau a gwasanaethau sydd o ddiddordeb i chi. Yn ychwanegol, gall CLIC rannu gyda chwmnïau o’r fath wybodaeth am ddefnydd o’r Wefan ynghylch ymwelwyr i’r Safleoedd i bwrpas rheoli a thargedu hysbysebion ar ein safleoedd. I’r pwrpas hwn, nodwn ni a’n noddwyr hysbysebu trydydd parti rai o’r tudalennau yr ymwelwch â nhw ar ein safleoedd drwy ddefnyddio tagiau picsel (a elwir hefyd yn gifs clir).

Plant a Phreifatrwydd

Mae CLIC yn annog rhieni a gwarcheidwaid i dreulio amser gyda’u plant ar-lein, ac i fod yn gwbl gyfarwydd â ’r safleoedd yr ymwelir â nhw gan eu plant. Mewn nifer o fannau bydd CLIC yn gofyn a yw defnyddwyr o dan 16 oed, neu 13, er enghraifft wrth ofyn am wybodaeth bersonol gan ddefnyddwyr, neu gall CLIC ofyn am ganiatâ d rhieni. Ond er bod CLIC yn gofyn am yr wybodaeth a’r caniatâ d hwn, mae CLIC yn dibynnu ar ddefnyddwyr i fod yn eirwir wrth ymateb i’w cwestiynau.

Unigolion o dan 13

Ni ddylid cyflwyno unrhyw wybodaeth na phostio unrhyw wybodaeth ar y Safle gan ddefnyddwyr o dan 13 oed heb ganiatâ d eu rhiant neu warcheidwad. Nid yw CLIC yn darparu unrhyw wybodaeth sy’n adnabod pobl yn bersonol, waeth beth yw eu ffynhonnell, i unrhyw drydydd parti i unrhyw bwrpas o gwbl, oni bai iddi gael ei datgelu wrth ei chasglu. Gofynnir i ddefnyddwyr o dan 13 oed yn gyffredinol beidio â chymryd rhan mewn cystadlaethau neu gyfleoedd hyrwyddo eraill.

Unigolion 13 i 17 oed

Mae CLIC yn gofyn i blant o dan 16 oed beidio â chyflwyno na phostio gwybodaeth i’r Safle heb ganiatâ d rhiant neu warcheidwad. Gall CLIC gasglu gwybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth sy’n adnabod pobl yn bersonol, gan ddefnyddwyr rhwng 13 ac 15 oed, a chyda chaniatâ d eu rhiant neu warcheidwad gall yr wybodaeth hon gael ei defnyddio i bwrpas marchnata a hyrwyddo gan CLIC a gellir ei rhannu gyda noddwyr a thrydydd parti wedi eu sgrinio ymlaen llaw. Os yw defnyddiwr neu ei riant neu warcheidwad yn newid ei feddwl mewn perthynas â defnydd o’r fath, gall defnyddiwr, rhiant neu warcheidwad o’r fath atal y defnydd hwnnw - naill ai drwy gais ebost neu drwy ddiwygio ei wybodaeth cofrestru ef/hi ar-lein fel y disgrifiwyd uchod yn “Defnydd o Wybodaeth a Gesglir gan CLIC”.

Byrddau Negeseuon a Sgwrsio

Cofiwch fod gwybodaeth a roddir ar fyrddau negeseuon ac ardaloedd sgwrsio yn dod yn wybodaeth gyhoeddus. Byddwch yn ofalus wrth bostio. Dylai defnyddwyr o dan 18 oed fod yn arbennig o ofalus i beidio â darparu unrhyw wybodaeth sy’n eu hadnabod yn bersonol wrth ddefnyddio ystafelloedd sgwrsio neu fyrddau negeseuon. Fel y nodwyd yn Amodau a Thelerau Defnydd CLIC, rhaid i ddefnyddwyr ystafelloedd sgwrsio a byrddau negeseuon ddilyn safonau ymddygiad derbyniol wrth bostio negeseuon ar-lein.

Dolennau â Safleoedd Eraill

Mae’n bwysig nodi bod CLIC yn cynnwys dolennau i safleoedd heblaw www.battleofthebands.com ac nad yw’r safleoedd hynny efallai yn dilyn yr un polisïau preifatrwydd â CLIC. Er enghraifft, os cliciwch ar hysbyseb ar CLIC, bydd hyn yn mynd â chi i ffwrdd oddi wrth CLIC ac i safle cwbl wahanol. Gall hyn cynnwys dolennau gan hysbysebwyr, darparwyr cynnwys a phartneriaid a all ddefnyddio logo a/neu arddull CLIC o ganlyniad i gytundeb i frandio ar y cyd. Gall y safleoedd hyn anfon eu cwcis eu hunain atoch, a gallant gasglu data a gwneud defnydd ohono na fyddai CLIC yn ei wneud.

Mae defnyddio unrhyw wybodaeth neu ddefnyddiau y gallwch gyrchu atynt yn y safleoedd allanol yn gwbl wirfoddol. Ni ddylech ddibynnu ar eu cynnwys heb adolygiadau annibynnol a thrwyadl o’u cywirdeb a’u cyflawnder. Gall y safleoedd allanol hyn hefyd gyfeirio at gynhyrchion masnachol penodol, prosesau neu wasanaethau yn ô l enw masnach, nod masnach, nod gwasanaeth, gweithgynhyrchwr neu fel arall. Oni bai fod CLIC wedi darparu awdurdod penodol, nid yw cyfeiriadau o’r fath yn awgrymu mewn unrhyw fodd ein bod ni yn eu cefnogi, yn eu hargymell nac yn rhoi blaenoriaeth iddynt. Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â ’r Amodau a Thelerau Defnydd llawn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Ni warantir bod trosglwyddo unrhyw ddata dros y Rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Gall fod yn bosibl i drydydd parti nad yw o dan reolaeth CLIC dorri ar draws neu gyrchu at drawsyriadau neu gyfathrebiadau preifat yn anghyfreithlon. Er ein bod yn ceisio gwarchod eich data personol, ni all CLIC sicrhau na gwarantu diogelwch unrhyw wybodaeth a drosglwyddwch inni. Gwneir unrhyw drosglwyddiad o’r fath ar eich risg eich hun.

Ni fydd CLIC, o dan unrhyw amgylchiadau, gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i esgeulustod, yn gyfrifol am unrhyw ddifrod arbennig, achlysurol neu ganlyniadol sy’n deillio o ddefnyddio gwybodaeth neu ddeunyddiau ar ein safleoedd, hyd yn oed os yw CLIC neu gynrychiolydd awdurdodedig CLIC, wedi ei gynghori ynghylch posibilrwydd difrod o’r fath. Dylid darllen yr adran hon hefyd mewn cysylltiad â ’r Amodau a Thelerau Defnydd llawn.

MAE DEFNYDDIO’R SAFLE HWN YN ARWYDD O’CH CYTUNDEB I’R AMODAU A’R TELERAU DEFNYDD A’R POLISI PREIFATRWYDD. Mae CLIC yn cadw’r hawl i newid y polisi hwn unrhyw bryd drwy hysbysu defnyddwyr am bresenoldeb polisi preifatrwydd diwygiedig drwy ei bostio ar y Safle. Gallwch anfon ebost atom gydag unrhyw gwestiynau pellach yn botb@cliconline.co.uk

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50