Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Mynegai Gwybodaeth » Addysg

Rydych yn dysgu rhywbeth newydd bob dydd. Mae eich addysg yn dechrau o‘r funud y cewch eich geni ac mae‘n parhau am weddill eich oes. Mae addysg yn bwysig er mwyn dod o hyd i swydd a manteisio ar ystod eang o gyfleoedd. Nid yw fyth yn rhy hwyr i ddechrau dysgu, i arwyddo i fynd ar gwrs ac i ychwanegu at eich gwybodaeth.

Mae‘r rhan fwyaf o bobl yn cysylltu addysg â bod yn yr ysgol; addysg orfodol amser llawn yn ôl y gyfraith yw hwn i bob plentyn a pherson ifanc rhwng 5 ac 16 oed. Codwyd yr oed gadael addysg orfodol i 18 gan y llywodraeth yn 2008. Bydd y newid yn digwydd yn 2013 i rai 17 oed a 2015 i rai 18 oed.

Ar hyn o bryd, yn 16 oed gallwch ddewis parhau i astudio am ddwy flynedd arall yn y chweched dosbarth neu mewn coleg lleol yn astudio Safon Uwch neu gymwysterau eraill fel y Fagloriaeth Ryngwladol a BTEC.

Mae‘r adran hon yn dweud wrthych am eich dewisiadau ac yn edrych ar rai o‘r materion a‘r problemau y gallech ddod ar eu traws wrth gael eich addysg. Cliciwch ar yr amrywiol erthyglau yn yr adran hon i ddarganfod mwy neu cliciwch ar y ddolen i Gyrfaoedd Cymru fel man cychwyn da wrth benderfynu ar eich dyfodol.

Sefydliadau

2 CommentsPostiwch sylw

lucky123

Rhoddwyd sylw 5 mis yn ôl - 17th March 2010 - 14:01pm

i hate skwl xx

lucky123

Rhoddwyd sylw 5 mis yn ôl - 19th March 2010 - 09:26am

i only like school because we have a laugh in there but other than that i absolouley h8 it xx

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.