Gwybodaeth » Addysg » Addysg Ôl-16
Wedi i chi gyrraedd 16 oed (ym Mlwyddyn 11), rydych yn cael penderfynu a ydych am aros mewn addysg yn yr ysgol neu’r coleg i gael cymwysterau pellach neu adael i gael swydd, prentisiaeth neu i gael hyfforddiant.
Bydd llawer o fyfyrwyr sy’n dymuno ymgeisio i brifysgol yn dewis astudio Safonau Uwch neu'r hyn sy’n cyfateb iddynt. Ceir oddeutu 80 o bynciau y gallwch eu hastudio ar Lefel Uwch a bydd ysgolion a cholegau fel arfer yn cynnig y pynciau mwyaf poblogaidd. Efallai y bydd yn rhaid i chi chwilio am rai o’r pynciau mwy anghyffredin neu arbenigol. Gallwch hefyd ddewis astudio Rhaglen Ddiploma’r Fagloriaeth Ryngwladol (IB). Mae’r IB yn gymhwyster cydnabyddedig rhyngwladol i fyfyrwyr 16 i 19 oed. Fe’i seilir o amgylch astudiaeth academaidd fanwl o ystod eang o bynciau, gan gynnwys ieithoedd, y celfyddydau, gwyddoniaeth, mathemateg, hanes a daearyddiaeth.
Ceir cymwysterau eraill fel Safonau Uwch cymhwysol ac NVQs, sydd â strwythur mwy ymarferol a galwedigaethol. Mae hyn yn golygu astudio rhai o’r pynciau mwy ymarferol am swydd benodol.
Mae’r adran hon yn edrych ar y gwahaniaethau rhwng astudio mewn chweched dosbarth neu goleg a gall roi cyngor a gwybodaeth i chi am brofiad gwaith.




