Gwybodaeth » Addysg » Addysg Uwch » Swyddi i Raddedigion
- Ni fydd ennill gradd o reidrwydd yn golygu y byddwch chi’n cael swydd sy’n talu’n dda.
- Mae hefyd yn wir bod yna gyfleoedd i ddod ymlaen ar gael hyd yn oed os nad ydych chi wedi bod yn y brifysgol, trwy hyfforddi mewn swydd.
- Fodd bynnag, mae ymchwil wedi dangos bod gan raddedigion gyfraddau diweithdra is a’u bod yn ennill mwy ar gyfartaledd na’r rhai â chymwysterau is.
- Bydd graddedigion hefyd yn tueddu i symud i fyny’r ysgol yrfa yn gyflymach.
- Felly byddai’n ymddangos bod mynd i’r brifysgol yn syniad da o ran eich gobeithion am yrfa yn y dyfodol.
- I gael gwybodaeth a chyngor ar gyfleoedd gyrfa yn dilyn gradd, ewch i gyrfacymru.com
Addysg Uwch - Swyddi i Raddedigion