Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg » Anghenion Addysgol Arbennig » Ariannu Budd-daliadau Anabledd

Budd-daliadau Anabledd

  • Os oes gennych chi anabledd, mae’n bosib y gallwch chi gael budd-daliadau.
  • Mae llawer o reolau sy’n berthnasol pan fyddwch chi’n hawlio budd-dal, felly i ddod i wybod mwy, bydd angen ichi gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith neu’ch gweithiwr cymdeithasol, os oes gennych chi un.

Lwfans Byw i’r Anabl

  • Mae dwy ran i hwn
    • Gofal - os oes angen help â gofal personol, neu i’ch cadw chi’n ddiogel
    • Symudedd - os yw’n anodd cerdded neu symud o gwmpas
  • Bydd rhai pobl yn gallu cael un rhan yn unig, tra bydd eraill yn gallu cael y ddwy o bosib. Gall plant ifanc iawn gael y budd-dal hwn.

Analluogrwydd mewn Ieuenctid

  • Os ydych chi dros 16 a than 20 (gall fod hyd at 25 mewn rhai amgylchiadau), ac nad ydych chi yn/wedi gallu gweithio am 196 o ddiwrnodau, mae’n bosib y gallwch chi hawlio’r budd-dal hwn.
  • Gallwch chi fod yn yr ysgol neu’r coleg a hawlio’r budd-dal hwn, cyn belled â’ch bod chi’n cael llai na 21 awr o astudio ar gwrs prif ffrwd. Ni fydd unrhyw amser a dreulir ar gefnogaeth fyddwch chi’n ei gael o ganlyniad i’ch anabledd yn cyfri tuag at yr oriau hyn.

Cymhorthdal Incwm

  • Fel rheol, bydd Cymhorthdal Incwm yn cael ei dalu i bobl sydd ar incwm isel.
  • Os ydych chi ar y gyfradd uchaf o Lwfans Byw i’r Anabl ar gyfer gofal, yna dylech chi hefyd allu hawlio Cymhorthdal Incwm.

Direct Gov Pobl anabl Cefnogaeth ariannol

Canolfan Byd Gwaith - budd-daliadau anabledd

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.