Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg » Anghenion Addysgol Arbennig » Cefnogaeth mewn Addysg Uwch

  • Bydd gan bob prifysgol ddatganiad anabledd ac aelod o staff sy’n gyfrifol am drefnu cefnogaeth ar gyfer myfyrwyr ag anableddau.
  • Dyma rhai pethau efallai y byddwch chi am eu hystyried wrth ddewis prifysgol:
    • Pa gyrsiau sydd ar gynnig
    • Cynnwys y cyrsiau a sut fyddan nhw’n cael eu hasesu
    • Pa gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer myfyrwyr anabl - bydd gan bob prifysgol aelod o staff sy’n gyfrifol am drefnu cefnogaeth ar gyfer myfyrwyr anabl. Gall lefel y gefnogaeth a gynigir amrywio rhwng prifysgolion.
    • Pa mor bell oddi cartref rydych chi’n barod i fynd
    • Pa mor fawr/fach yw’r brifysgol
    • P’un a hoffech chi fyw mewn tref, mewn dinas, mewn ardal mwy gwledig ac ati
    • Pa mor hawdd yw hi i deithio o amgylch yr ardal
    • Pa gyfleusterau eraill sydd gan y brifysgol a pha mor hygyrch yw’r safle
    • Pa fath o lety sydd ganddyn nhw - oes yna unrhyw gyfleusterau ar gyfer myfyrwyr anabl
    • Oes yna fyfyrwyr anabl eraill yno neu wedi bod yno’n ddiweddar

Lwfans Myfyrwyr Anabl

  • Os oes gennych chi anabledd a’ch bod chi’n gwneud cais am addysg uwch (prifysgol), mae’n bosib y gallwch chi hawlio Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA).
  • Mae’r lwfans yma’n cael ei hawlio oddi wrth yr awdurdod lleol.
  • Byddan nhw’n gofyn am dystiolaeth o’ch anabledd ac mae’n bosib y byddan nhw am ichi gael asesiad.
  • Gellir defnyddio’r arian i dalu am staff i’ch cefnogi chi, am offer, neu am gostau cludiant sy’n ymwneud ag anabledd.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.