Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg » Anghenion Addysgol Arbennig » Cefnogaeth yn y coleg

  • Bydd gan y rhan fwyaf o golegau gyrsiau sydd wedi’u cynllunio i helpu pobl:
    • I wella’u mathemateg a’u Saesneg
    • I fod yn fwy hyderus
    • I roi cynnig ar amrywiaeth o gyrsiau ymarferol i ddod i wybod beth fydden nhw’n hoffi’i wneud
  • Yn aml, bydd gan y cyrsiau hyn deitlau megis Paratoi Galwedigaethol.
  • Os ydych chi eisoes yn gwybod pa gwrs rydych chi eisiau’i ddilyn ond bod angen cefnogaeth arnoch chi, gall y coleg wneud cais am arian i roi’r gefnogaeth ar waith. Gall y math o gefnogaeth allai fod ar gael gynnwys:
    • Rhywun i gymryd nodiadau ar eich rhan
    • Rhywun i ddarllen gwybodaeth ar eich rhan
    • Help i drefnu eich gwaith
    • Gliniadur
    • Help wrth fwyta
    • Help i fynd o gwmpas y coleg
  • Byddai’n syniad da siarad â’ch cynghorydd gyrfa am y gefnogaeth allech chi ei gael yn y coleg.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.