Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg » Anghenion Addysgol Arbennig » Cefnogaeth yn yr Ysgol

Cefnogaeth ar gyfer dysgu yn yr ysgol

  • Gall yr ysgol roi cefnogaeth ichi mewn sawl ffordd. Byddan nhw’n dibynnu ar y math o gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi.
  • Mae’n bosib y bydd yn rhaid ichi gael asesiad, er mwyn i’r ysgol ddod i wybod beth yw’ch anghenion a sut y gallan nhw, neu bobl eraill, eich helpu chi.
  • Bydd anghenion nifer fechan iawn o fyfyrwyr yn cael eu nodi’n ysgrifenedig mewn Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig.
  • Mae yna God Ymarfer yng Nghymru sy’n amlinellu’r hyn y dylai ysgolion ac awdurdodau addysg lleol ei wneud pan fydd angen cefnogaeth ar rywun yn yr ysgol.
  • Bydd y gefnogaeth a ellir ei rhoi ar gyfer dysgu yn amrywiol, ond gallai gynnwys:
    • Rhywun i gymryd nodiadau ar eich rhan
    • Rhywun i ddarllen gwybodaeth ar eich rhan
    • Help i drefnu’ch gwaith
    • Gliniadur
  • Os ydych chi’n teimlo bod gwir angen cefnogaeth â’ch dysgu yn yr ysgol arnoch chi, yna mae angen i chi, neu’ch rhieni, siarad ag un o’ch athrawon neu â’r cydlynydd anghenion arbennig (a elwir yn SENCO).

Cefnogaeth bersonol yn yr ysgol

  • Mae’n bosib y gall rhai myfyrwyr hefyd gael cefnogaeth gofal personol. Gallai hyn gynnwys:
    • Help wrth fwyta
    • Help wrth symud o gwmpas yr ysgol
    • Help wrth fynd i’r toiled neu wrth newid

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.