Gwybodaeth » Addysg » Anghenion Addysgol Arbennig » Cludiant
Yr Ysgol
- Os ydych chi’n cael tacsi i’r ysgol hyd at 16 oed, dylai hyn barhau os byddwch chi’n penderfynu mynd yn ôl i’r ysgol ar gyfer blwyddyn 12.
- Fodd bynnag, mae gan pob awdurdod addysg lleol (AALl) ei bolisi ei hun ar gludiant, felly byddai’n werth gwirio’r polisi ar gyfer eich awdurdod chi.
- Gallwch ddod o hyd i’r holl AALl trwy ddefnyddio’r cyswllt isod:
awdurdod addysg lleol
Y Coleg
- Mae gan yr AALl gyfrifoldeb dros gludiant ar gyfer pobl hyd at 19 oed.
- Bydd angen ichi wirio’r polisi ar gyfer eich AALl, gan ei bod yn bosib nad ydyn nhw i gyd yn darparu tacsi i fyfyrwyr anabl fynd i’r coleg.
- Os ydych chi dros 19 oed, am fynychu coleg lleol, ac mae arnoch chi angen tacsi i gyrraedd y coleg, bydd angen ichi siarad â’r coleg pan fyddwch chi’n gwneud cais.
- Bydd rhai colegau’n defnyddio arian o’r enw Cronfa Ariannol Wrth Gefn i helpu myfyrwyr anabl â chostau cludiant.
- Weithiau mae’n bosib cael cefnogaeth ar gyfer costau tacsi gan wasanaethau cymdeithasol os oes gennych chi weithiwr cymdeithasol.
Coleg Preswyl
- Os ydych chi’n mynd i goleg preswyl arbenigol, a’ch bod chi dan 19 oed, yna bydd angen ichi ddod i wybod a fydd eich AALl yn ariannu cludiant ar eich cyfer chi ar ddechrau ac ar ddiwedd pob tymor.
- Os byddwch chi am ddod gartref yn ystod y tymor, bydd angen ichi dalu am hyn.
Y Brifysgol
- Os oes angen ichi gael tacsi i’r brifysgol, mae’n bosib y byddwch chi’n gallu gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl.
- Bydd rhan o hwn yn cwmpasu unrhyw gostau ychwanegol y bydd yn rhaid ichi eu talu am gludiant o ganlyniad i’ch anabledd.




