Gwybodaeth » Addysg » Anghenion Addysgol Arbennig » Colegau Preswyl Arbenigol
- Efallai nad mynd i goleg lleol pan fyddan nhw’n gadael yr ysgol yw’8 r opsiwn cywir ar gyfer nifer fechan iawn o bobl ifanc.
- Mae colegau lleol yn cynnig ystod eang o gyrsiau a chefnogaeth ond weithiau, ni allan nhw gynnig cwrs â’r gefnogaeth angenrheidiol. Yn yr achosion hyn, mae’n bosib y bydd person ifanc yn gallu ystyried mynd i goleg oddi cartref. Colegau arbenigol yw’r enw ar y rhain. Mae hyn yn golygu bod y staff wedi’u hyfforddi i gynnig lefel uchel o gefnogaeth ar gyfer pobl ifanc ag anableddau.
Beth pe bawn i am fynd i goleg arbenigol?
- Gallwch ddewis mynd i goleg fel hyn oddi cartref, ond dim ond os nad yw’r coleg lleol yn gallu cynnig y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi
- Bydd eich cynghorydd gyrfa yn siarad â chi am y colegau a allai o bosib ddiwallu’ch anghenion chi orau a sut i wneud cais amdanyn nhw
- Byddai angen ichi drefnu i ymweld â’r coleg(au). Yna bydden nhw’n gofyn ichi fynd yno eto ac aros dros nos er mwyn i chi ddod i wybod mwy am y coleg ac er mwyn iddyn nhw ddod i wybod mwy amdanoch chi
- Yna os ydych chi am fynd i’r coleg hwn, byddai angen i’ch cynghorydd gyrfa wneud cais am yr ariannu ar eich cyfer chi, ond nid yw’n cael ei roi ym mhob achos
- Byddai angen ichi fyw oddi cartref yn ystod y tymor, a dod adref yn ystod y gwyliau ac ar rai penwythnosau
- Gallech chi aros yn y coleg am hyd at 3 blynedd




