Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg » Sgiliau » Sgiliau Sylfaenol

  • Ydych chi’n ei chael hi’n anodd darllen ac ysgrifennu? Ydych chi’n ei chael hi’n anodd gwneud Mathemateg a llenwi ffurflenni? Peidiwch â phoeni, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae llawer o bobl yn cael y pethau hyn yn anodd, ond dydi hi byth yn rhy hwyr i wneud rhywbeth ynglŷn â’r peth.
  • Mae ’sgiliau sylfaenol’ megis darllen, ysgrifennu a defnyddio rhifau yn eich helpu chi i fyw ac i weithio. Mae sgiliau sylfaenol yn bwysig iawn - ar gyfer dod o hyd i swydd ac yn eich bywyd gartref.
  • Efallai eich bod yn teimlo cywilydd os ydych chi’n cael problemau â’ch sgiliau sylfaenol, ond mae help uniongyrchol ar gael yn rhwydd gartref, mewn colegau, yn y gymuned a hyd yn oed tra byddwch chi’n gweithio, felly peidiwch â bod ofn gofyn am help os oes ei angen arnoch chi.
  • Mae llawer o gyrsiau hyfforddi a chyrsiau coleg yn cynnig cefnogaeth sgiliau sylfaenol wrth ichi astudio rhywbeth arall.
  • Bellach, mae Canolfannau Addysg Oedolion neu brosiectau cymunedol yn cynnal cyrsiau mewn sgiliau sylfaenol. Mae rhai yn cynnig cynlluniau arbennig ar gyfer y di-waith, yr anabl, y rhai sydd wedi’/ u diswyddo neu eraill sy’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl peth amser.
  • Os ydych chi’n cael anawsterau â sgiliau sylfaenol yn yr ysgol neu yn y coleg, mae’n werth siarad â’ch tiwtor, a fydd yn gallu rhoi cyngor ymarferol ichi a’ch cyfeirio chi at sefydliadau defnyddiol.
  • Mae’r mwyafrif o gyrsiau Sgiliau Sylfaenol yn rhad ac am ddim ac yn arwain at gymhwyster gwerthfawr a allai’ch helpu chi i wella’ch golygon yn y gwaith, i newid gyrfa neu i adeiladu’ch hyder.

Dyslecsia

  • Mae gan rai pobl broblemau â sgiliau sylfaenol fel darllen ac ysgrifennu oherwydd Dyslecsia.
  • Daw Dyslecsia o iaith Groeg, ac mae’n golygu ’anhawster â geiriau’.
  • Mae Dyslecsia’n effeithio ar rannau’r ymennydd sy’n delio â’r sgiliau sylfaenol sy’n gyfrifol am ddysgu sut i ddarllen, ysgrifennu a sillafu.
  • Efallai bydd pobl sydd â dyslecsia yn sylwi ei fod yn effeithio ar eu sgiliau lleferydd, cofio, darllen, sillafu, ysgrifennu ac weithiau rhifedd (mathemateg).

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.