Gwybodaeth » Addysg » Yn Yr Ysgol 11-16 - Cyflwyniad » Cynghorau Ysgol
- Mae gan bobl dan 18 eu set o hawliau eu hunain, sef Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC).
- Mae UNCRC yn dweud bod gan bobl ifanc hawl i ddweud eu dweud am faterion sy’n effeithio arnyn nhw ac y dylid gwrando arnyn nhw a’u parchu wrth ddod i benderfyniad.
- Mae hefyd yn dweud bod gan bobl ifanc yr hawl i gael gwybodaeth a mynegi eu barn, cyn belled â nad yw hyn yn mynd yn erbyn hawliau pobl eraill.
- Mae UNCRC yn golygu bod yn rhaid i Lywodraeth Cynulliad Cymru gymryd hawliau plant o ddifrif, ac mae’n ei gwneud yn bwysig i bobl ifanc leisio’u barn.
- Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyflwyno Cynghorau Ysgol fel un ffordd o wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn cael dweud eu dweud ynghylch yr hyn sy’n digwydd yn eu hysgol ac yn eu haddysg.
- Rhaid i bob ysgol gynradd, ysgol uwchradd ac ysgol arbennig yng Nghymru gael cyngor ysgol, a bod wedi cynnal eu cyfarfod cyngor ysgol cyntaf erbyn 1af Tachwedd 2006.
Beth yw cynghorau ysgol?
- Grŵp bach o ddisgyblion wedi’u hethol i gynrychioli disgyblion eraill yn yr ysgol yw cyngor ysgol.
- Diben cyngor ysgol yw i bobl ifanc siarad am bethau sy’n ymwneud â’p u hysgol, eu haddysg ac unrhyw fater arall sy’n eu pryderu.
- Gallan nhw godi eu materion a’u pryderon gyda staff hŷn a llywodraethwyr yr ysgol.
Sut mae cynghorau ysgol yn gweithio?
- Bydd disgyblion yn cael eu hethol ar gyngor yr ysgol trwy bleidlais gyfrinachol.
- Bydd gan unrhyw ddisgybl sydd am fod yn rhan o gyngor yr ysgol yr hawl i roi eu henw ymlaen, yna bydd pobl ifanc yn eu dosbarth/blwyddyn yn cael bwrw pleidlais drostyn nhw os fyddan nhw’n dymuno.
- Fel rheol, bydd grŵp tiwtor yn cynnal trafodaeth ac yna’n ethol dau ddisgybl i’w cynrychioli nhw mewn cyfarfodydd rheolaidd o gyngor blwyddyn (e.e. Blwyddyn 10, Blwyddyn 11).
- Yna bydd pob cyngor blwyddyn yn ethol dau ddisgybl i gynrychioli’u blwyddyn ar gyngor yr ysgol.
- Mae hyn yn golygu bod gan pob blwyddyn ysgol ddau gynrychiolydd ar gyngor yr ysgol.
- Dylai disgyblion sydd wedi’u hethol i gyngor yr ysgol gael hyfforddiant ar eu rolau a’u cyfrifoldebau.
- Bydd y disgyblion sydd wedi’u hethol yn mynd i gyfarfodydd wedi’u cefnogi gan athro i drafod a gwneud cynlluniau ar gyfer gwella’r ysgol.
- Bydd y disgyblion ar y cyngor ysgol a’r cyngor blwyddyn yn adrodd yn ôl i’w grwpiau tiwtor ynghylch yr hyn sydd wedi’i benderfynu a’r hyn sy’n digwydd.
- Rhaid i’r Pennaeth wneud yn siŵr bod cyngor yr ysgol yn cyfarfod chwe gwaith y flwyddyn.
- Mae gan gyngor yr ysgol y cyfle i ethol dau berson ifanc o flynyddoedd 11 - 13 i adrodd wrth Gorff Llywodraethu’r ysgol.
Beth all cyngor yr ysgol ei wneud?
- Gall godi materion a phryderon disgyblion, ymgyrchu am newid a chodi arian.
- Ymhlith y materion y gallai cynghorau ysgol eu hystyried mae:
- Bwlio
- Amgylchedd yr ysgol
- Offer a chyfleusterau chwaraeon
- Bwydlen y ffreutur
- Sbwriel
- Gwisg ysgol
- Rheolau ysgol
- Sut i godi arian i’r ysgol neu i elusennau
- Cyflwr toiledau a chyfleusterau eraill yr ysgol.
- Bydd cyngor yr ysgol yn cyflwyno syniadau i reolwyr a llywodraethwyr er mwyn i ddisgyblion leisio’u barn pan wneir penderfyniadau.
Oes gennych chi ddiddordeb cymryd rhan yng nghyngor eich ysgol?
- Gall cymryd rhan yng nghyngor eich ysgol fod o fudd ichi’n bersonol yn ogystal â disgyblion eraill yn yr ysgol.
- Byddwch chi’n cael profiad gwerthfawr o weithio gydag eraill, trafod materion, penderfynu a chyflwyno syniadau a fydd yn eich helpu chi i adeiladu’ch sgiliau allweddol.
- Bydd y sgiliau a’r profiad hyn yn edrych yn dda ar geisiadau cwrs/UCAS, ar eich CV ac ar geisiadau am swyddi yn y dyfodol.




