Gwybodaeth » Addysg » Yn Yr Ysgol 11-16 - Cyflwyniad » Presenoldeb
Mae gennych hawl i addysg y wladwriaeth amser llawn tan eich pen-blwydd yn bedair ar bymtheg oed. Y cynharaf y gallwch chi adael yr ysgol yw pan fyddwch chi’n 16 - ar ddiwedd Blwyddyn 11.
Y dyddiad gadael ysgol swyddogol yw dydd Gwener olaf mis Mehefin ym Mlwyddyn 11 - rhaid ichi fynychu’r ysgol yn rheolaidd tan y dyddiad hwn.
Mae’r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i bawb rhwng 5 ac 16 oed gael addysg amser llawn. Mae’n orfodol.
Gall llawer o absenoldeb o’r ysgol heb eglurhad gyfrif yn eich erbyn pan fyddwch yn ceisio am swyddi a chyrsiau eraill yn y dyfodol, felly mae’n bwysig iawn mynd i’r ysgol.
Os na fyddwch chi’n mynychu’r ysgol yn rheolaidd, gellid mynd â’ch rhieni i’r llys a’u dirwyo.
Lle i gael help
Os ydych chi’n cael problemau yn yr ysgol sy’n achosi ichi fod yn absennol, ceisiwch siarad â’ch rhieni neu â’ch athrawon am y peth. Darllenwch ein herthygl ar chwarae triwant.
Os ydych chi’n cael eich bwlio, darllenwch ein herthygl ar fwlio am awgrymiadau ar sut i ddelio â hyn.
Os na allwch chi siarad ag unrhyw un gartref neu yn yr ysgol, gallech chi ffonio Childline ar 0800 1111.




