Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg » Yn Yr Ysgol 11-16 - Cyflwyniad » Rheolau'r Ysgol

  • Gall ysgolion osod eu rheolau eu hunain.
  • Fel rheol, y pennaeth fydd yn ysgrifennu’r rhain, a’r llywodraethwyr yn eu derbyn.
  • Dylai’r rheolau fod ar gael i bawb sy’n astudio yn yr ysgol.
  • Mae llawer o reolau’n cael eu gwneud am resymau iechyd a diogelwch, ac mae’n bwysig eu dilyn.
  • Os byddwch yn torri rheol ysgol bwysig, gallech gael eich gwahardd, sy’n golygu bod yr ysgol yn eich gwahardd rhag mynychu (gwelwch ein herthygl ar wahardd).
  • Os byddwch yn torri rheolau’r ysgol yn aml iawn, gallai gyfrif yn eich erbyn pan fyddwch yn ceisio am swydd.
  • Dyma rai o’r rheolau ysgol mwyaf cyffredin.

Rheolau cyffredinol

  • Parchu athrawon a disgyblion eraill.
  • Dim rhegi, ymladd nac ymddygiad ymosodol arall.
  • Dim cyffuriau, alcohol na chamddefnyddio sylweddau (e.e. arogli glud).
  • Peidio a gwneud gormod o sŵn.
  • Cerdded o amgylch yr ysgol mewn modd trefnus.
  • Peidio a gollwng sbwriel.
  • Gwneud eich gwaith cartref.
  • Oni bai eu bod nhw’n mynd gartref am ginio, mae’n bosib na fydd disgyblion dan oed penodol yn cael gadael safle’r ysgol amser cinio.
  • Dod â nodyn oddi wrth eich rhieni os oes gennych apwyntiad â’r deintydd neu’r meddyg, neu i egluro pam eich bod wedi bod yn absennol o’r ysgol.
  • Cael caniatâd ysgrifenedig oddi wrth yr ysgol i fynd ar wyliau teuluol yn ystod y tymor.

Cael eich cadw i mewn

  • Mae ysgolion yn cael cadw disgyblion i mewn ar ôl ysgol fel cosb, ond dylid cyhoeddi dyddiad ac amseroedd hyn o flaen llaw gan hysbysu’ch rhieni hefyd.
  • Dylid cadw disgyblion i mewn ar amser na fydd yn ei gwneud yn beryglus ichi ddychwelyd gartref.

Difrodi eiddo’r ysgol

  • Os byddwch chi’n torri neu’n difrodi eiddo’r ysgol yn fwriadol, mae’n bosib y bydd gofyn ichi dalu amdano.
  • Mewn achosion o ddifrod troseddol i eiddo’r ysgol, mae’n bosib y bydd y Llys yn gorchymyn i’ch rhieni dalu iawndal.

Gwisg ysgol

  • Gall cyrff llywodraethu ysgolion wneud eu rheolau eu hunain ynghylch gwisg ysgol.
  • Mae rhai ysgolion yn fwy llym ynghylch hyn nag eraill.
  • Fel rheol, bydd yr ysgol yn derbyn amrywiadau mewn gwisg ysgol am resymau crefyddol neu ddiwylliannol (er enghraifft, gwisgo twrban, cap corun, a dreadlocks neu orchuddio’ch coesau).

Cydaddoli ac addysg grefyddol (gwasanaethau ysgol)

  • Mae disgwyl i’r rhan fwyaf o ddisgyblion fynychu gwasanaethau ysgol ac addysg grefyddol.
  • Fodd bynnag, rhaid i ysgolion gytuno i unrhyw ofyniad ysgrifenedig oddi wrth rieni i dynnu eu plentyn yn ôl o gydaddoli neu addysg grefyddol.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.