Gwybodaeth » Amgylchedd » Planhigion ac Anifeiliaid » Anifeiliaid Fferm
- Anifeiliaid fferm yw unrhyw anifeiliaid sy’n cael eu cadw er mwyn eu defnyddio neu i wneud elw ohonynt
- Yr anifeiliaid fferm mwyaf cyffredin yw buchod, moch, defaid, ieir, hwyaid a cheffylau
- Mae Cymru’n enwog am ffermio ac mae yma wartheg a defaid y mae cig ardderchog yn dod ohonynt
- Mae anifeiliaid gwahanol yn byw ar wahanol fathau o fferm. Er enghraifft, mae ffermydd llaeth fel arfer yn cadw buchod i gynhyrchu llaeth, nid am eu cig
- Am ragor o wybodaeth, ewch i adran FFERMIO AC AMAETHYDDIAETH ar y wefan hon
Ffermydd Trefol
- Mae ffermydd trefol yn fwyfwy cyffredin. Mae’r rhain yn ffermydd o fewn dinasoedd mewn mannau llai na ffermydd traddodiadol yn y wlad
- Yn aml, os ydych yn talu ffi fach, fe fedrwch ymweld â fferm drefol er mwyn gweld y ffordd y maen nhw’n gweithio ac i ddysgu am anifeiliaid. Mae anifeiliaid ffermydd trefol yr un peth ag anifeiliaid ffermydd traddodiadol
- Yng Nghymru, mae ffermydd trefol yng Nghaerdydd, Abertawe a Chwmbrân




