Gwybodaeth » Arian » Arian Poced » Cynilo
- Mae hi i fyny i chi beth y byddwch chi’n ei wneud â’ch arian poced, ond bydd rhai pobl yn dewis ei gynilo
- Efallai y byddwch chi’n cynilo eich arian poced nes bod gennych chi ddigon i brynu rhywbeth rydych chi ei eisiau, fel pâr newydd o trêners neu gêm gyfrifiadurol. Bydd rhai pobl hefyd yn cynilo’u harian i’w wario pan fyddan nhw’n mynd ar eu gwyliau, i brynu anrhegion Nadolig neu Ben-blwydd i’w teulu a’u ffrindiau, ar gyfer trip yr ysgol, neu dim ond i fod ’wrth gefn’ rhag ofn y bydd ei angen
- Gallwch chi naill ai cynilo eich arian adref neu gallwch chi ofyn i’ch rhieni neu’ch gofalwr i’ch helpu i agor cyfrif cynilo yn y banc, lle gallwch chi gadw’ch arian nes y bydd ei angen arnoch chi
- Os oes gennych chi gyfrif cynilo, bydd eich arian hefyd yn ennill mwy o arian ar eich cyfer. Bydd y banc yn talu swm bach o arian o’r enw llog bob mis, fel gwobr am ddefnyddio’u cyfrif cynilo nhw. Gwelwch MATHAU O GYFRIFON i gael mwy o fanylion am agor cyfrif cynilo
- Gofynnwch i’ch rhiant neu’ch gofalwr am gyngor ar ddewis y math o gyfrif sy’n iawn i chi os ydych chi’n poeni




