Gwybodaeth » Arian » Yswiriant
- Sicrwydd ariannol ar gyfer rhywbeth rydych chi’n berchen arno yw yswiriant. Gallwch chi yswirio’ch car, eich cartref, eich teithio, eich iechyd, eich anifeiliaid anwes a’ch cardiau banc a’ch cardiau siopau
- Mae yswiriant yn eich helpu â’r costau pan fydd rhywbeth yn mynd o chwith. Er enghraifft, os bydd angen llawdriniaeth ar eich anifail anwes, yna gall y cwmni yswiriant eich helpu â biliau’r milfeddyg
- Mae rhai mathau o yswiriant yn orfodol. Er enghraifft, mae angen ichi fod ag yswiriant i yrru er mwyn rhoi sicrwydd ichi ar gyfer damweiniau neu ddifrod i gar neu eiddo rhywun arall
- Yn achos mathau eraill o yswiriant, mater o’ch dewis personol chi ydyn nhw. Er enghraifft, yswiriant teithio. Er mwyn gweld a yw’n werth chweil cael y math yma o yswiriant, fe fydd angen ichi ystyried beth fyddai’r effaith debygol arnoch chi pe byddai rhywbeth yn mynd o chwith, a chymharu hynny â chost yr yswiriant
- Pan fydd gennych chi yswiriant, fe fyddwch chi’n talu premiwm, sef y swm y byddwch chi’n ei dalu i’r cwmni yswiriant bob blwyddyn neu bob mis. Mae hyn yn rhoi sicrwydd ichi rhag ofn y bydd rhywbeth yn mynd o chwith
- Mae gan bob cwmni yswiriant bolisïau gwahanol ar gyfer gwahanol bethau. Mae rhai yn ddrutach nag eraill, felly mae’n bwysig ymchwilio i’r opsiynau er mwyn cael bargen dda
- Darllenwch y polisi yswiriant yn ofalus iawn cyn ei lofnodi, a gwnewch yn siŵr eich bod chi’n deall YN UNION beth mae’n ei warantu
- Mae’r rhan fwyaf o bolisïau yswiriant yn dynodi tâl-dros-ben. Dyma’r swm y bydd angen i chi ei dalu pan fyddwch chi’n cyflwyno hawliad ar eich yswiriant. Er enghraifft, os bydd gennych chi dâl-dros-ben o £50 mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi dalu £50 cyntaf unrhyw hawliad. Bydd eich yswiriwr yn talu’r gweddill




