Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Awyr Agored » Beicio

  • Mae beicio’n ffordd gyfleus a rhad o deithio ac yn ffordd wych o ddarganfod eich ardal leol
  • Gall beicio roi llawer o ryddid i chi – ond mae’n bwysig paratoi ar gyfer y tywydd a chyflwr y ffyrdd
  • Cadwch yn ddiogel trwy wisgo helmed beicio
  • Gallwch fwynhau beicio’n unigol, neu ymuno ag eraill a beicio gyda’w ch gilydd mewn clwb beicio
  • Mae yna lawer o lwybrau beicio yng Nghymru i chi roi cynnig arnynt – gwelwch y lincs isod am ragor o wybodaeth

Beicio gyda’r nos

  • Os ydych chi’n beicio gyda’r nos, rhaid gosod o leiaf ddau o oleuadau ar eich beic yn ôl y gyfraith – golau gwyn ar y blaen a golau coch ar y cefn
  • Rhaid bod adlewyrchydd coch ar gefn eich beic
  • Gwnewch yn siŵr y bydd pobl yn gallu eich gweld chi – gwisgwch ddillad adlewyrchol fel y bydd cerbydau eraill a cherddwyr yn eich gweld chi

Beicio mewn tywydd gwlyb

  • Gall beicio mewn tywydd gwlyb fod yn beryglus, gan fod y glaw yn lleihau faint y gallwch ei weld ac mae risg y gall eich teiars lithro
  • Bydd hi’n cymryd mwy o amser nag arfer i arafu pan fydd arwynebedd y ffordd yn wlyb – felly breciwch yn gynnar ac yn araf
  • Gwisgwch ddillad gwrth–ddŵr er mwyn cadw’n sych a chynnes
  • Profwch eich breciau, gerau a theiars i weld a ydynt yn gweithio’n gywir

Beicio mewn tywydd twym

  • Sicrhewch eich bod yn yfed digonedd o hylif mewn tywydd twym fel nad ydych yn mynd yn ddadhydredig
  • Amddiffynnwch eich croen rhag yr haul trwy wisgo hufen haul ar eich wyneb a’ch gwddf

Medrusrwydd beicio

  • Os nad ydych wedi dysgu beicio neu os nad ydych yn teimlo’r hyderus am feicio ar y ffordd, gallwch wneud cwrs medrusrwydd beicio gyda’r Rhwydwaith Beicwyr Cenedlaethol: CTC Cymru (gwelwch y linc isod)

Gofalu am eich beic

  • Mae’n syniad da prynu clo ar gyfer eich beic er mwyn ei gadw’n ddiogel – siaradwch â rhywun yn eich siop beiciau leol am gyngor
  • Cadwch eich beic mewn cyflwr da trwy wneud yn siŵr bod olew yn y mannau cywir, bod y teiars â digon o aer ynddynt a bod y breciau a’r geriau’n gweithio’n iawn

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.