Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Awyr Agored » Chwaraeon Awyr

  • Mae nifer o fathau gwahanol o chwaraeon awyr y gallwch gymryd rhan ynddynt ledled Cymru gan gynnwys:
    • Hedfan
    • Gleidio
    • Barcuta (hang gliding)
    • Paragleidio
    • Parasiwtio
    • Hedfan barcud
  • Mae sawl risg cysylltiedig â hedfan. Gall fod yn chwaraeon peryglus, felly mae’n bwysig eich bod yn ymuno â chlwb gyda hyfforddwyr hollol gymwys
  • Gall hyfforddiant pob un o’r chwaraeon awyr gwahanol hyn fod ychydig yn wahanol ond yn ôl y gyfraith rhaid i chi fod o leiaf 16 oed i hedfan ar eich pen eich hun
  • Ac os ydych dan 18 mlwydd oed, rhaid i chi gael caniatâd eich rhiant neu’ch gwarcheidwad
  • Os oes gennych wasgedd gwaed uchel, cymalau gwan neu anaf i’ch cefn, anogir i chi weld eich meddyg sy’n rhoi cynnig ar unrhyw chwaraeon awyr
  • Os oes gennych ddiddordeb yn y gamp hon, gwelwch y lincs isod am ragor o wybodaeth ar ddod o hyd i’ch clwb agosaf

Hedfan

  • Os ydych wedi penderfynu eisoes eich bod am ddysgu hedfan, rhaid cwblhau cwrs PPL (Private Pilot’s Licence). Rhaid i chi fod o leiaf 17 oed ac wedi pasio archwiliad meddygol er mwyn meddiannu ar y drwydded
  • Mae rhai clybiau’n cynnig hediad prawf, lle byddwch yn rhoi cynnig ar lywio awyren gyda’ch hyfforddwr. Gall hon fod yn ffordd wych o ddarganfod a ydych yn mwynhau hedfan ac a ydych am ddysgu

Gleidio

  • Nid oes peiriant gan gleiderau ac maen nhw’n defnyddio technegau tebyg i adar i gleidio drwy’r awyr
  • Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu gleidio, awgrymir i chi fod o leiaf 14 oed cyn cychwyn. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn ddigon mawr i gael eich clymu yn y cyfarpar yn ddiogel a’ch bod yn gallu cyrraedd y pedalau

Barcuta

  • Wrth farcuta cewch eich strapio i gleider – ffrâm ysgafn gydag adain mewn siâp triongl i adael i chi hedfan
  • Er mwyn esgyn, mae’r barcutwr yn rhedeg lawr bryn ac yn lansio mewn i’r awyr
  • Oes os diddordeb gennych mewn dysgu barcuta, mae cyrsiau ar gael ledled Cymru

Paragleidio

  • Mae paragleidio yn debyg i farcuta, ond heb y ffrâm ysgafn – ceir canopi defnydd yn unig, yn debyg i barasiwt
  • Mae paragleidion yn esgyn trwy neidio o fannau uchel ac yn disgyn yn araf deg trwy’r awyr

Parasiwtio / Awyrblymio

  • Mae parasiwtwyr ac awyrblymwyr yn neidio o awyren gyda pharasiwt sydd heb ei agor wedi’i strapio i’w cefn
  • Caiff y parasiwt ei agor cyn i chi fynd yn agos at y ddaear er mwyn sicrhau eich bod yn glanio mewn ffordd reoledig a diogel
  • Mae ystod o neidiau gwahanol y gallwch eu gwneud. Caiff parasiwtwyr ac awyrblymwyr heb brofiad eu strapio i hyfforddwr, a fydd yn rheoli’r neidio ac yn agor y parasiwt
  • Rhaid cael llawer mwy o hyfforddiant i neidio’n unigol

1 CommentPostiwch sylw

clifton11

Rhoddwyd sylw 29 mis yn ôl - 14th December 2009 - 04:23am

Would you like to get into Kite sports ?
Kite - landboarding, kiteboarding and Kitesurfing, power kite flying and Kite Buggying.
South Wales has plenty of good wind which is Free!, Come and learn how to use it .
www.kitesurfing.org- (British kitesurfing assocation)

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.