Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Awyr Agored » Chwaraeon Eraill

Chwaraeon Saethu

  • Mae chwaraeon saethu’n gampau cystadleuol sy’n profi manwl–gywirdeb a chyflymder
  • Gallwch ymarfer campau saethu trwy ddefnyddio gwahanol fathau o ddrylliau
  • Mae cofnod diogelwch saethu’n benigamp – mae ganddo’r ffigur isaf o anafiadau damweiniol o bob math o chwaraeon. Mae hyn oherwydd y rheoliadau llym yn ymwneud â defnyddio drylliau yn y gamp, a’r safon uchaf o hyfforddiant ac addysg sydd ei hangen. Rhaid glynu wrth gyfreithiau saethu’n dynn, nid yn unig o dan reolau’r gamp, ond hefyd o dan gyfraith Prydain Fawr
  • Gall saethwyr ifanc ddysgu i ddefnyddio drylliau’n ddiogel ac yn gyfrifol dan gynllun sy’n sicrhau eu diogelwch eu hunain a diogelwch y cyhoedd
  • Fodd bynnag, ni ddylai neb saethu heb sicrwydd yswiriant llawn – mae sicrwydd yswiriant dibynadwy ar gael trwy’r British Association for Shooting and Conservation sy’n darparu sicrwydd llawn ar gyfer damweiniau
  • Mae llawer o wahanol fathau o saethu yn y DU, yn cynnwys saethu colomennod clai a saethu targedau

Saethu pistol

  • Ym mhob digwyddiad pistol, mae cystadleuwyr yn ennill pwyntiau trwy saethu targed â 10 cylch arno
  • Yr enillydd yw’r person sy’n sgorio’r nifer mwyaf o bwyntiau
  • Mae saethwyr pistol yn sefyll ar eu traed a rhaid iddyn nhw ddal a
  • saethu’r gwn gydag un llaw
  • Cewch bwyntiau rhwng un ar gyfer y cylch allanol a 10 ar gyfer y canol (y ’bull’)
  • Mae yna ddigwyddiadau saethu gwahanol – rhai yn 10m, rhai yn 25m a rhai yn 50m, ac mae’r rheolau a’r dulliau saethu yn amrywio ar gyfer pob digwyddiad
  • Mae hefyd dargedau trachywiredd ar gyfer 50m a 25m, a thargedau saethu cyflym
  • Er mwyn cymryd rhan mewn saethu, gallwch ymuno â chlwb saethu neu faes ymarfer saethu – ceir cannoedd ohonyn nhw yn y DU
  • Mae’r rhan fwyaf o glybiau’n croesawu unrhyw un sydd eisiau dysgu
  • Ewch draw i wefan y British Shooting Sports Council (gwelwch y cyswllt isod) sy’n cwmpasu pob disgyblaeth saethu

Saethu colomennod clai

  • Mae saethu colomennod clai yn weithgaredd hamdden a chystadleuol lle mae saethwyr yn ceisio torri disgiau clai sydd wedi cael eu taflu i’r awyr yn gyflym iawn
  • Mae cystadleuwyr yn saethu o amrywiaeth o onglau gwahanol
  • Mae gan saethu colomennod clai draddodiad cryf yng Nghymru ac mae gan Gymru dïm saethu colomennod clai llwyddiannus
  • Os oes gennych ddiddordeb mewn saethu, gallwch ymuno â chlwb saethu neu cliciwch ar y cysylltiadau isod i gael gwybod am sut y gallwch gymryd rhan

A wyddoch chi...?

  • Mae saethu’n dod â gwaith ac arian i gefn gwlad, ac yn cyfrannu’n sylweddol at economi’r DU – mae 26,300 o swyddi amser llawn yn y DU yn dibynnu’n uniongyrchol ar saethu
  • Mae gan y British Association for Shooting and Conservation fwy na 123,000 o aelodau
  • Mae mwy na miliwn o bobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon saethu bob blwyddyn, sy’n fwy na rygbi, hoci ac athletau

Pêl–droed Americanaidd

  • Mae pêl–droed Americanaidd yn gamp tïm gystadleuol
  • Nod y gamp yw symud y bêl tuag at fan pen (’end zone’) y tïm arall er mwyn sgorio pwyntiau
  • Gellir symud y bêl yn ei blaen gan ei chario, ei thaflu neu ei rhoi o’r naill aelod o’r tïm i’r llall
  • Rydych yn sgorio pwyntiau mewn nifer o ffyrdd gwahanol – er enghraifft, trwy gario’r bêl dros y llinell gôl, taflu’r bêl i chwaraewr arall sy’n sefyll dros y llinell gôl neu gicio’r bêl trwy’2 r pyst gôl
  • Y tïm buddugol yw’r un â’r nifer mwyaf o bwyntiau ar ddiwedd y gêm
  • Cafodd pêl–droed Americanaidd ei dyfeisio yn yr Unol Daleithiau, ac mae’n gamp hynod boblogaidd yno
  • Dyw pêl–droed Americanaidd ddim yn cael ei chwarae’n eang yn y DU, ond mae’n gamp sydd ar dwf mewn prifysgolion a phlant iau
  • Ar hyn o bryd, mae chwe thïm pêl–droed Americanaidd yng Nghymru
  • Mae dau dïm Youth Flag:
    • The South Wales Rebellion
    • The Newport City Saints
  • Mae hyn yn golygu eu bod yn chwarae pêl–droed Americanaidd di–gyffyrddiad, ac maen nhw hefyd yn rhoi cyfle i bobl 12–17 oed gymryd rhan
  • Mae dau dïm o brifysgolion yng Nghymru
    • The Cardiff Cobras
    • Y Tarannau Aberystwyth
  • Bob blwyddyn, mae’r ddau dïm hyn yn chwarae yn erbyn ei gilydd i ennill y Welsh Bowl
  • Mae dau dïm ’Senior Kitted’
    • The Chester Romans
    • The South Wales Warriors
  • Os ydych eisiau chwarae pêl–droed Americanaidd neu eisiau gwylio neu gefnogi gêm gwelwch y manylion cysylltu isod

A wyddoch chi…?

  • Pêl–droed Americanaidd yw’r gamp fwyaf poblogaidd yr Unol Daleithiau o ran nifer y gwylwyr
  • Mae gêm pencampwriaeth pêl–droed Americanaidd, sef y Super Bowl, yn cael ei gwylio gan bron i hanner poblogaeth yr Unol Daleithiau

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.