Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Awyr Agored » Chwaraeon Modur
- Gall chwaraeon modur fod yn beryglus iawn ac yn gallu rhoi eich bywyd dan fygythiad – dylech wneud gweithgareddau chwaraeon modur gyda’r offer cywir yn unig, ar drac cywir ac o dan oruchwyliaeth pobl broffesiynol hyfforddedig
- Mae chwaraeon modur (o’r enw rasio ceir, chwaraeon ceir neu rasio moduron) yn golygu rasio cerbydau modur
- Mae chwaraeon modur yn cynnwys rasio beic modur, yn ogystal â rasio cwch modur a rasio awyr
- Mae sawl gwahanol fath o chwaraeon modur fel rasio sedd sengl, ralio, rasio ceir teithio a rasio iâ
- Gall unrhyw un dros 18 oed gyrru mewn cystadlaethau
- Gallwch wneud y rhan fwyaf o chwaraeon modur mewn ceir arferol, ac mae digwyddiadau ar gyfer hen geir, ceir newydd sbon a cheir bach
- Efallai na fydd angen car arnoch hyd yn oed – ar gyfer llawer o chwaraeon modur mae angen rhywun arall wrth ochr y gyrrwr
- Os ydych eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon modur ond ddim eisiau cystadlu, gallech ddod yn farsial – mae digon o gyfleoedd yng Nghymru – neu gallech fod yn wyliwr
- Mae angen tua 5,000 o swyddogion a marsialiaid ar gyfer Wales Rally GB bob blwyddyn
- Gallwch gael swydd barhaol yn y diwydiant chwaraeon modur hefyd – dywedir yn aml mai Prydain yw canolbwynt y byd chwaraeon modur, ac mae’n cyflogi tua 50,000 o bobl yn amser llawn a 100,000 o bobl yn rhan amser yn y diwydiant
Rasio sedd sengl (Fformiwla Un)
- Rasio sedd sengl (sydd hefyd yn cael ei alw’n rasio olwyn agored) yw’r mwyaf cyfarwydd o’r holl chwaraeon modur
- Mae’r ceir a ddefnyddir ar gyfer y gamp hon wedi’u dylunio’n arbennig ar gyfer rasio cyflym
- Mae rasys yn cael eu cynnal ar draciau caeëdig sydd wedi’u dylunio’2 n arbennig ar gyfer traciau fent neu stryd, sydd yn cael eu cau
- Gall gyrwyr gyrraedd cyflymder o fwy na 200milltir yr awr
- Er mwyn dysgu rasio moduron, rhaid i chi ddod o hyd i’ch canolfan chwaraeon modur agosaf
- Y digwyddiad enwocaf ym myd chwaraeon modur yw Pencampwriaeth Fformiwla Un y Byd
- Mae hwn yn ddigwyddiad blynyddol lle mae’r gweithgynhyrchwyr ceir ac injans rhyngwladol mwyaf yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i greu’r safonau uchaf mewn technoleg a medr y gyrrwr
- Rasys sedd sengl eraill yw GP2, Formula Nippon, Formula Nissan, Formula 3, Formula Atlantic ac Al Grand Prix
Gwibgartio
- Math arall o rasio sedd sengl yw gwibgartio
- Mae hyn yn defnyddio peiriant bach, am bris rhesymol, ar draciau bach
- Mae hyn wedi’i gynllunio’n arbennig i bobl ifanc. Mewn canolfan gwibgartio ceir trac iau i bobl 8–13 oed a thrac hŷn ar gyfer pobl dros 14 oed
- Mae gwibgartio yn un o’r campau chwaraeon modur sy’n tyfu gyflymaf yn y byd
- Dyma’r cam cyntaf tuag at rasio modur proffesiynol
- Dechreuodd y rhan fwyaf o yrwyr F1 eu gyrfaoedd trwy wibgartio
- Mae cannoedd o gwmnïau ac ysgolion gwibgartio yn y DU. Ymwelwch â UK Karting a gweld y cyfeirlyfr cysylltiadau. Gwelwch y cyswllt isod
Ralio/rasio rali
- Mae ralio’n defnyddio ceir y gall y cyhoedd eu prynu, er eu bod wedi’u haddasu. Maen nhw’n cael eu rasio ar ffyrdd cyhoeddus sydd wedi’u cau, neu fannau oddi ar y ffyrdd
- Mae dau fath o ralio – ralïau ffordd a ralïau cymal
- Mae ralïau ffordd yn cael eu cynnal ar ffyrdd cyhoeddus, ac mae ralïau cymal yn cael eu cynnal ar draciau
- Mae un rali’n cwmpasu gwahanol fathau o arwynebeddau
- Gwaith y cyd–yrrwr yw arwain y gyrrwr a’i helpu i gwblhau pob cymal o’r rali mor gyflym â phosibl
- Bydd yn darllen y nodiadau yn uchel dros system intercom fel y gall y gyrrwr ei glywed dros sŵn y car
- Yr enillydd yw’r gyrrwr sy’n cwblhau yn yr amser cyflymaf posibl
- Y digwyddiad mwyaf yw Pencampwriaeth Ralïo’r Byd, ond mae pencampwriaethau rhanbarthol hefyd
- Mae rhai ralïau enwog yn cynnwys Rali Monte Carlo a Rali’r Ariannin
- Os ydych eisiau rhoi cynnig ar ralïo, cysylltwch â’ch clwb chwaraeon modur lleol
Mae Clybiau Modur yn rhedeg un neu ddau o ralïau bob blwyddyn
A wyddoch chi...?
- Mae ceir Fformiwla 1 yn cyrraedd cyflymder o fwy na 320 cilomedr yr awr/ 200 milltir yr awr
- Mae hefyd 800 o glybiau modur cofrestredig sy’n trefnu 4,700 o ddigwyddiadau gwahanol mewn 22 disgyblaeth
- Mae mwy na 30,000 o unigolion yn meddu ar Drwyddedau Cystadlu’r Motor Sports Association (MSA)
- Mae o leiaf 100,000 o gystadleuwyr ym myd chwaraeon modur ym Mhrydain
- Fformiwla Un yw camp ddrutaf y byd. Mae rhai timau’n gwario dros £115m y flwyddyn




