Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Awyr Agored » Chwaraeon Targed
Saethyddiaeth
- Does dim cyfyngiadau ar gymryd rhan mewn saethyddiaeth, ond dylech bob amser ymarfer y gamp dan arolygiaeth broffesiynol oherwydd y gallwch anafu rhywun yn ddifrifol os ydych yn ei wneud yn ddiofal
- Mae saethyddiaeth yn gamp drachywiredd, lle byddwch yn defnyddio bwa i saethu saethau
- Mae gwahanol fathau o saethyddiaeth, yn cynnwys ’saethyddiaeth maes’ a ’saethyddiaeth hediad ’
- Mae saethyddiaeth maes yn golygu mynd o gwmpas cwrs a saethu nifer o dargedau
- Mae saethyddiaeth hediad yn golygu saethu mor bell â phosibl
- Os ydych eisiau dysgu saethyddiaeth mae llawer o glybiau lleol yn rhedeg gwersi cychwynnol. Ar ôl cwblhau’r rhain, fe allech ddod yn aelod o glwb saethyddiaeth
- Bydd offer yn cael ei ddarparu os ydych yn ymuno â chlwb
- Gallwch ddechrau ymarfer saethyddiaeth yn unrhyw oedran – ceir cystadlaethau ar wahân ar gyfer plant a phobl ifanc
A wyddoch chi…?
- Mae saethyddiaeth yn gamp Olympaidd
- Mae saethyddiaeth yn un o’r campau prin lle y gall pobl abl a phobl anabl gystadlu’n gyfartal
- Mae saethyddiaeth yn arfer hynafol a ddefnyddid ar gyfer hela ac ymladd yn wreiddiol
Dartiau
- Mae dartiau yn gamp lle mae saethynnau bach, tenau, pigfaen yn cael eu taflu at darged crwn o’r enw bwrdd dartiau
- Mae gan fwrdd dartiau gynllun arbennig – mae wedi’i rannu’n 20 adran sy’n werth o un i ugain pwynt. Mae pob adran wedi’i rhannu’n isadrannau sengl, dwbl neu driphlyg – mae’r isadrannau dwbl a thriphlyg yn llai
- Mae’n rhaid i’r chwaraewr sefyll y tu ôl i linell pan fydd yn taflu dartiau at y bwrdd
- Trwy fwrw’r rhan ar gyrion pob adran, byddwch yn dyblu’r pwyntiau ar gyfer yr adran honno; trwy fwrw’r rhannau mewnol o’r adrannau hyn byddwch yn treblu’r pwyntiau; ac os ydych yn taro rhannau mwyaf yr adran byddwch yn sgorio pwyntiau sengl
- Mae’r cylch bwrdd dartiau (y ’bullseye’) wedi’i rhannu’n gylch allanol a chylch coch mewnol – mae’r cylch allanol yn werth 25 o bwyntiau, ac mae’r cylch coch mewnol yn werth 50 o bwyntiau
- Mae gan bob chwaraewr dri dart i daflu at y bwrdd. Y sgôr uchaf posibl gyda thri dart yw 180, a byddwch yn sgorio hyn pan fydd y tri dart yn glanio yn yr adran 20 triphlyg
- Mae chwaraewyr dartiau yn cystadlu trwy geisio tynnu pwyntiau o swm dechreuol o naill ai 301 neu 501 ar gyfer senglau – y chwaraewr cyntaf i gyrraedd dim sy’n ennill
- Os yw chwaraewr wedi sgorio mwy na’r nifer o bwyntiau sydd ganddo ar ôl, yna mae wedi mynd yn ’byst’ ac mae ei sgôr yn dechrau o’r rhif gwreiddiol eto. Mae hynny’n golygu ei fod yn debygol o golli
- Mae tïm dartiau dynion a menywod cenedlaethol yng Nghymru
A wyddoch chi...?
- Mae dartiau’n gêm draddodiadol sy’n cael ei chwarae mewn tafarndai ym Mhrydain
- Cwpan y Byd yr WDF yw’r twrnamaint dartiau rhyngwladol ar gyfer timau cenedlaethol – mae wedi cael ei chwarae ddwywaith y flwyddyn ers 1977
- Y Deyrnas Unedig oedd y wlad gyntaf i gydnabod dartiau fel camp swyddogol




