Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Awyr Agored » Criced
- Mae sawl fersiwn o griced, ond yn y fersiwn mwyaf poblogaidd ceir dau dïm o 11 o chwaraewyr. Mae pob tïm yn cymryd eu tro i fatio a bowlio
- Mae’r tïm sy’n batio yn ceisio sgorio’r nifer fwyaf o rediadau ag sy’n bosib trwy daro’r bêl i rywle o fewn y maes
- Rhaid i’r tïm sy’n bowlio geisio’u cael nhw allan trwy fowlio tuag at y stwmp criced sy’n sefyll ar naill ochr y wiced
- Gall y tïm sy’n bowlio gael y person sy’n batio allan trwy daro’r wiced neu drwy ddal y bêl ar ôl iddi gael ei batio a chyn iddi gyrraedd y ddaear
- Unwaith bod yr holl dïm wedi’u cael allan mae’r timoedd yn newid lle
- Y tïm â’r nifer fwyaf o rediadau sy’n ennill
Criced y Ddraig / Dragon Cricket (11 oed)
- Mae hwn yn fersiwn symlach o griced, y mae plant 7–11 oed yn ei chwarae yng Nghymru
- Ceir dau dïm o bump o bobl ac mae dau set o wicedi gyda marcwyr ar yr ochr er mwyn i’r tïm sy’n batio redeg o’u cwmpas
Kwik Cricket (11 oed)
- Mae ’Kwik Cricket’ yn fersiwn arall o’r gêm y mae plant hyd at 11 oed yn ei chwarae. Mae’r offer wedi’u gwneud o blastig er diogelwch a gellir addasu’r chwarae yn ôl nifer y chwaraewyr




