Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Awyr Agored » Golff
- Mae golff yn gamp lle mae chwaraewyr unigol neu dimau yn taro pêl fach i mewn i dwll gydag un ergyd neu nifer o ergydau yn olynol, trwy ddefnyddio ffyn golff ar gwrs golff.
- Gallwch ddechrau chwarae ar y safle tio
- Nod golff yw taro’r bêl i mewn i’r twll gyda chynlleied o ergydau â phosibl. Mae’r sgôr yn dibynnu ar nifer yr ergydau y mae’n cymryd i’r chwaraewr roi’r bêl yn y twll
- Mae golff wedi cael ei chwarae ym Mhrydain Fawr ers sawl canrif
- Mae’n dod yn fwyfwy poblogaidd ymhlith pobl ifanc
- Y safle tio yw’r man lle y mae’n rhaid i chi ’dio’ eich pêl – dyma’w r man cychwyn, ac mae wedi’i nodi gan ddau farciwr tio
- Rydych yn taro’r bêl yn y safle tio, ac unwaith y mae’r bêl yn peidio symud, gallwch ei tharo eto. Byddwch yn gwneud hyn nes y bydd y bêl yn mynd i mewn i’r twll
- Mae’r cwrs golff yn ardal fawr sydd wedi’i chynllunio’n arbennig ar gyfer chwarae golff, ac mae’n cynnwys cyfres o dyllau
- Mae ’twll’ yn cyfeirio at dwll yn y ddaear a’r pellter o’r safle tio i’r grïn
- Y grïn yw’r ardal sydd yn amgylchynu’r twll ei hun
- Mae rhai tyllau’n anoddach nag eraill
- Mae gan y rhan fwyaf o feysydd golff naw neu ddeunaw o dyllau
- Mae’r tyllau’n cael eu chwarae yn nhrefn y cwrs
- Mae llawer o dyllau’n cynnwys peryglon fel peryglon dŵr neu byncars i wneud y gêm yn anoddach ac yn fwy amrywiol
- Mae gan chwaraewyr set o ffyn golff sydd â siafft denau a phen pren neu haearn
- Gall golffiwr gario hyd at 14 o ffyn yn ystod rownd
- Mae pedwar prif gategori o ffon golff – ffyn pren, hybrid, ffyn haearn a pyters. Ceir ’wedges’ hefyd, sy’n debyg i ffyn haearn
- Os ydych eisiau dysgu i chwarae golff, gallwch gael gwersi preifat, ymuno ag ysgol golff neu ymarfer eich trawiadau ar faes ymarfer golff
- Twrnamaint golff fwyaf y byd yw Cwpan Ryder. Gweler Cwpan Ryder
Golff yng Nghymru
- Ceir calendr golff amatur a phroffesiynol llawn a drefnwyd gan y Welsh Golfing Union a’r Welsh Ladies Golfing Union
- Mae mwy na 150 o gyrsiau golff yng Nghymru, yn cynnwys Dinbych y Pysgod, Llandudno, yr Eglwys Newydd (Caerdydd), Trefynwy, Bro Llangollen, Prestatyn, Creigiau, Borth ac Ynyslas, Sant Deiniol, Padeswood a Bwcle, Aberystwyth, Ashburnham, Aberdâr, Castell Gwenfo, Porthcawl Brenhinol, Cowny (Sir Gaernarfon) a Pyl a Chynffig
A wyddoch chi...?
- Yn 2010, bydd Cwpan Ryder yn cael ei gynnal yn y Celtic Manor Resort yng Nghasnewydd (gweler Cwpan Ryder)
- Mae golff yn un o’r campau prin sydd heb faes chwarae safonol
- Y Royal and Ancient Golf Club of St Andrew’s, yr Alban yw cartref rhyngwladol y gamp, ac mae rheolau sylfaenol y gamp yn cael eu gweithredu ar hyd a lled y byd
- Mae un o golffwyr gorau PGA Ewrop ac aelod rheolaidd o Gwpan Ryder yn Gymro – ei enw yw Ian Woosnam
- Welsh Golfing Union yw clwb hynaf y byd ond un – fe’i sefydlwyd yn 1895




