Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Awyr Agored » Hoci

  • Mae hoci yn gamp lle mae dau dïm yn cystadlu trwy basio pêl neu pyc gan ddefnyddio ffon hoci a cheisio sgorio yn rhwyd neu gôl y gwrthwynebwyr, trwy fwrw’r bêl neu’r pyc heibio’r gôl–geidwad
  • Mae nifer o wahanol fathau o hoci, yn cynnwys hoci maes, hoci iâ a hoci rholer
  • Mae hoci iâ a hoci maes yn cael eu chwarae gan broffesiynolwyr ac amaturiaid yn y DU
  • Mae 11 o chwaraewyr mewn tïm

Hoci maes

  • Mae hoci maes yn fersiwn o hoci sy’n cael ei chwarae ar grafel, glaswellt, tywod neu laswellt ffug
  • Mae’n cael ei chwarae gan amlaf yng Ngorllewin Ewrop, Asia, Awstralia a Seland Newydd
  • Mae ffyn hoci maes yn llai na ffyn hoci iâ – mae gan rai modern lafn bachog, ond mae gan ffyn hoci iâ lafn hir sy’n gallu bod yn fflat ar wyneb yr iâ pan fydd y ffon yn cael ei dal yn unionsyth
  • Mae hoci maes yn cael ei chwarae yn y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd ym Mhrydain ac mewn cynghreiriau ac academïau ym Mhrydain a gweddill Ewrop

Hoci yng Nghymru

  • Mae llawer o dimau hoci proffesiynol i ddynion a menywod yng Nghymru, sy’n gysylltiedig ag Undeb Hoci Cymru
  • Mae Adran Perfformiad Undeb Hoci Cymru yn rhedeg rhaglenni tïm ar gyfer chwaraewyr hŷn, rhai dan 21 oed, rhai dan 18 oed ac Academi Chwaraewyr Iau (dan 16 oed)
  • Mae’r rhan fwyaf o ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru’n gysylltiedig ag Undeb Hoci Cymru
  • Os nad oes tïm hoci yn eich ysgol, cysylltwch â’ch canolfan chwaraeon lleol i gael gwybodaeth am eich tïm hoci lleol

Hoci iâ

  • Mae hoci iâ yn cael ei chwarae ar iâ, gyda phyc rwber sy’n pwyso 7–8 owns
  • Mae hoci iâ yn cael ei chwarae yn bennaf yng Nghanada, Rwsia, Unol Daleithiau America a’r Hemisffer Gogleddol, yn enwedig yn Sgandinafia
  • Caiff ei chwarae yn llai ym Mhrydain, er bod Cynghrair Hoci Iâ Elit Prydain, sef cynghrair gorau hoci iâ proffesiynol y DU
  • Mae’r Cardiff Devils yn glwb hoci iâ cyfarwydd sy’n aelod o’r Cynghrair Elit

Hoci rholer

  • Mae hoci rholer yn gêm gyflym sy’n cael ei chwarae ar esgidiau sglefrio mewn rinc dan do gyda phêl neu pyc plastig
  • Mae hoci rholer yn cael ei alw’n hoci rinc yn aml
  • Mae’n defnyddio esgidiau sglefrio â phedair olwyn, ac weithiau mae’w n cael ei alw’n hoci pedair olwyn (quad)
  • Mae ffyn hoci rinc â siâp ’L’ ac maen nhw bron a bod yr un maint â’w r rheiny a ddefnyddir mewn hoci maes
  • Mae hoci rinc yn boblogaidd yn ne Ewrop – mewn gwledydd fel Sbaen, Portiwgal a’r Eidal – a rhai gwledydd yn Ne America fel Brasil a’r Ariannin

Hoci inline

  • Mae hoci inline yn fath o hoci sy’n debyg i hoci iâ – sef gêm sy’n cael ei chwarae gan ddau dïm – pedwar sglefrwyr a gôl–geidwad ar bob ochr, ar rinc sych
  • Mae’r gêm yn cael ei chwarae mewn dau gyfnod 20 munud
  • Mae hoci inline yn debyg i hoci rholer, ac mae’n cael ei alw’n hoci rholer yn aml, ond mae’r esgidiau sglefrio a rheolau’r gamp yn wahanol
  • Cysylltwch â’r British Inline Skater Hockey Association am fwy o fanylion – ymwelwch â’r cyswllt isod i gysylltu â nhw trwy eu gwefan

A wyddoch chi...?

  • Mae hoci iâ yn cael ei chwarae hefyd yn Gemau Olympaidd y Gaeaf ac mae’r rheolau ychydig yn wahanol i’r rheiny ar gyfer y Cynghrair Hoci Cenedlaethol
  • Y timau sy’n cymryd rhan yng Nghynghrair Elit Hoci Iâ Prydain yw:
    • Sheffield Steelers
    • Manchester Phoenix
    • Cardiff Devils
    • London Racers
    • Belfast Giants
    • Edinburgh Capitals
    • Newcastle Vipers

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50