Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Awyr Agored » Pêl-Rwyd
- Mae pêl–rwyd yn cael ei chwarae ar gwrt caled gyda hŵps ar y ddau ben a phêl i’w thaflu, sy’n eithaf mawr, ond ychydig yn llai na phêl–fasged neu bêl–droed
- Mae’n cael ei chwarae gan ddau dïm o saith chwaraewr
- Mae pêl–rwyd yn cael ei chwarae’n bennaf gan fenywod, er bod timau dynion a chymysg yn dod yn fwyfwy poblogaidd
- Nod y gamp yw sgorio trwy saethu’r bêl i mewn i un o’r hŵps
- Y tïm sy’n sgorio’r nifer mwyaf o goliau ar ddiwedd y gêm sy’n ennill
- Mae cwrt pêl–rwyd wedi’i rhannu’n ddau draean
- Mae hanner cylch ar bob pen o’r cwrt, ac o’r hanner cylch hwnnw mae’n rhaid sgorio saethiadau
- Mae’r traeanau’n dangos lle y gall chwaraewyr ym mhob tïm symud
- Mae’r rheolau’n llym ac mae chwaraewyr yn cael eu cosbi os ydyn nhw’n symud y tu allan i’w man penodedig
- Dyw rheolau pêl–rwyd ddim yn caniatáu i chwaraewyr gymryd mwy nag un cam tra bod y bêl yn eu meddiant. Os yw rhywun yn taflu’r bêl atoch, rhaid i chi beidio â symud, er y gallwch droi (gan gadw un troed yn yr unfan) er mwyn dewis rhywun i daflu’r bêl ato
- Ni all y chwaraewr ddal y bêl gan un chwaraewr am fwy na thri eiliad
- Ni allwch fownsio’r bêl
- Yr unig ffordd i symud y bêl tuag at y gôl yw ei thaflu i aelod arall o’ch tïm
- Gall y chwaraewyr eraill redeg o gwmpas i safleoedd gwell tra bod y bêl gennych yn eich dwylo
- Mae pêl–rwyd yn gamp ddi–gyffyrddiad
- Mae hyn ei gwneud yn anodd amddiffyn – rhaid i chwaraewyr fod o leiaf dair troedfedd i ffwrdd i amddiffyn
- Os yw rhywun yn cyffwrdd â chwaraewr, rhoddir y bêl i’r tïm arall
- Gall dynion a menywod gystadlu yn erbyn ei gilydd yn deg oherwydd nad yw rheolau’r gêm yn caniatáu i gryfder dynion fod yn fantais, er y gall taldra dynion fod yn fantais gyda safle saethu goliau
- Gallwch gymryd rhan mewn pêl–rwyd yn eich ysgol neu’ch clwb lleol – cysylltwch â’ch canolfan chwaraeon leol am fwy o wybodaeth
A wyddoch chi...?
- Pêl–rwyd yw’r gamp fwyaf poblogaidd i fenywod yng Nghymru, o ran niferoedd y bobl sy’n chwarae
- Timau pêl–rwyd gorau’r byd yw Awstralia a Seland Newydd




