Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Awyr Agored » Tenis
- Mae tenis yn gamp sy’n cael ei chwarae gyda dau chwaraewr neu ddau bâr o chwaraewyr sy’n defnyddio racedi i daro pêl yn ôl ac ymlaen dros rwyd
- Mae’r rhwyd yn ymestyn ar led y cwrt, sy’n ei wahanu’n ddwy ochr gyfartal
- Mae tenis yn cael ei chwarae ar wyneb fflat siâp petryalog sy’n laswellt, clai neu’n goncrid fel arfer
- Ar ddechrau gêm o tenis, mae chwaraewyr yn sefyll ar ochrau gwahanol o’r cwrt
- Mae un chwaraewr yn dechrau trwy serfio’r bêl. Y nod yw bwrw’r bêl dros y rhwyd fel ei bod yn bownsio yn yr ochr arall i’r cwrt
Sgorio
- Mae’r chwaraewr sy’n serfio’r bêl yn sgorio pwyntiau os nad yw’r chwaraewr arall yn cyrraedd y bêl cyn iddi fownsio am yr ail dro neu’n methu bwrw’r bêl yn ôl yn gywir
- Mae matsys yn cynnwys pwyntiau, gemau a setiau
- Rydych yn sgorio pwyntiau i ennill gêm
- Mae set yn gyfres o gemau. Rydych yn ennill set ar ôl i chwaraewr ennill chwe gêm a rhaid ei fod wedi ennill dwy gêm mwy na’r chwaraewr arall
- Ym myd tenis dynion, mae’r matsysy yn cynnwys pum set – rhaid ennill tri allan o bump. Ar ôl i chwaraewr ennill tri set, mae wedi ennill y mats oherwydd na all y chwaraewr arall ei guro
- Ym myd tenis menywod, mae’r matsys yn cynnwys tri set – ar ôl i chwaraewr ennill dau set, mae hi wedi ennill y mats
Dyblau
- Mae tenis dyblau hefyd, lle y ceir dau chwaraewr ar y ddwy ochr
- Mae’r cwrt ychydig yn fwy ar gyfer matsys dyblau
Twrnameintiau tenis
- Mae miliynau o bobl yn dilyn tenis, yn enwedig y pedwar twrnamaint Grand Slam, sef Wimbledon, yr US Open, yr Australian Open a’r French Open
- Wimbledon yw twrnamaint tenis mwyaf y byd. Caiff ei gynnal yn Llundain bob blwyddyn am bythefnos yn yr haf
Wimbledon yw’r unig dwrnamaint Grand Slam lle mae chwaraewyr yn chwarae ar borfa - Mae chwaraewyr o fwy na 60 o wledydd yn cystadlu bob blwyddyn
- Mae twrnameintiau gwahanol yn cael eu cynnal ar yr un pryd ar gyfer senglau dynion, senglau menywod, dyblau dynion, dyblau menywod a dyblau cymysg
- Mae Wimbledon yn cael ei ddarlledu a cheir cyhoeddusrwydd amdano yn y wasg, ar y radio, ar y rhyngrwyd ac ar y teledu, ac mae miliynau o bobl ar hyd a lled y byd yn ei ddilyn
- Mae Prydain Fawr yn cystadlu fel un genedl unedig ym Mhencampwriaethau Wimbledon
Cymryd rhan
- Os ydych eisiau dysgu i chwarae tenis, mae cyrtiau tenis mewn llawer o ysgolion a chanolfannau chwarae i chi gael ymarfer arnyn nhw
- Mae clybiau tenis ledled Cymru lle y gallwch ddysgu sut i chwarae tenis mewn grŵp neu ddod o hyd i hyfforddwr preifat – gwelwch y cysylltiadau isod i ddod o hyd i’ch clwb tenis agosaf
A wyddoch chi...?
- Mae tenis yn gamp Olympaidd
- Mae’r math o wyneb y mae tenis yn cael ei chwarae arno yn pennu cyflymder a bowns y bêl – mae chwaraewyr gwahanol yn chwarae’n well ar wahanol wynebau
- Dyw rheolau tenis ddim wedi newid llawer ers y 1920au, sy’n wahanol i lawer o gampau eraill
- Heddiw, mae gêm y menywod yn fwy poblogaidd na gêm y dynion, ac mae mwy na hanner miliwn o ymwelwyr yn dod i Wimbledon bob blwyddyn




