Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Dan Do » Badminton

  • Gellir chwarae Badminton yn unigol, neu mewn parau cymysg neu un–rhyw
  • Mae rheolau ychydig yn wahanol ar gyfer gemau unigolion a pharau
  • Mae gêm menywod ychydig yn wahanol i gêm dynion. Rhaid i ddynion sgorio 15 o bwyntiau i ennill, rhaid i fenywod sgorio 11 o bwyntiau i ennill
  • Y person/pâr sy’n ennill dwy gêm o dair sy’n ennill y gornest
  • Rydych yn ennill rali os ydych yn taro’r wennol (’shuttle’) dros y rhwyd ac i’r llawr ar ochr arall y cwrt
  • Rydych yn colli rali os tarwch y wennol mewn i’r rhwyd, neu dros y rhwyd ond y tu allan i derfyn cwrt eich gwrthwynebydd
  • Rydych hefyd yn colli rali os ydych yn taro’r wennol mwy nag unwaith cyn iddi groesi’r rhwyd neu os yw’n cyffwrdd â chi neu’ch dillad
  • Byddwch ond yn sgorio os mai chi oedd yn serfio, ac mae’r pwyntiau’2 r codi fesul un bob tro
  • Mewn gemau pâr neu unigol, rhaid cael 15 pwynt i ennill gêm dynion ac 11 pwynt i ennill gêm menywod – cyhyd â bod yr enillydd dau bwynt yn glir o’i wrthwynebydd
  • Gallwch ddarganfod rhagor am Fadminton trwy gysylltu ag Undeb Badminton
  • Cymru neu’ch canolfan chwaraeon lleol
  • Badminton yn yr ysgol
  • Mae Undeb Badminton Cymru yn cynnal Digwyddiad Ysgolion Gorau Cymru (’Welsh Top Schools Event’), y gall pob ysgol sydd wedi cofrestru ei mynychu
  • Gall uchafswm o ddau dïm bechgyn a dau dïm marched o bob ysgol gymryd rhan
  • Mae’r Undeb Badminton hefyd yn cynnal Twrnamaint ’Junior Shuttle’ a Chyfres ’Junior Satellite’

A wyddoch chi?

  • Badminton yw camp gyfranogi fwyaf poblogaidd y byd – heblaw pêl–droed.
  • Badminton yw chwaraeon raced cyflymaf y byd – gellir taro’r wennol â buanedd o hyd at 200milltir yr awr

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.