Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Dan Do » Crefft Ymladd

 Gall crefft ymladd fod yn beryglus a dylai ei hymarfer gyda gofal a disgyblaeth, dan gyfarwyddyd hyfforddwyr proffesiynol

Gelwir unrhyw fath o ymladd di–arf yn grefft ymladd

 Mae pobl yn ymarfer crefft ymladd fel chwaraeon cystadleuol ac er mwyn cadw’n heini, i amddiffyn eu hunan, i fyfyrio, i ddatblygu disgyblaeth feddyliol, datblygu cymeriad a hunanhyder

Carate

 Mae Carate yn ddull traddodiadol Japaneaidd o ymladd heb arfau

Mae’n cynnwys technegau dyrnu, bwrw a chicio.  Mae’r person y taro a chicio pwyntiau sensitif ar gorff ei wrthwynebydd

Mae’r rhan fwyaf o glybiau carate yn cynnal sesiynau hyfforddi am awr neu ddwy.  Os ydych yn ddechreuwr, efallai y bydd sesiwn awr yn ddigon hir

Wrth i chi ddatblygu, gallwch sefyll arholiadau graddio sy’n ddigwyddiadau ffurfiol lle caiff eich sgiliau carate eu barnu.  Os ydych yn llwyddo i basio’r radd honno, bydd eich clwb neu’ch sefydliad yn cydnabod eich hawl i wisgo gwregys o liw gwahanol.  Mae lliw eich gwregys yn adlewyrchu lefel eich gallu i ymarfer carate.  Gwyn yw lliw’r gwregys y lefel mwyaf sylfaenol, a du yw’r lliw uchaf

Jiwdo

 Mae Jiwdo yn gelf hunanamddiffyn Japaneaidd a hefyd yn gamp Olympaidd

Mae’n fath o reslo lle rydych yn troi cryfder eich gwrthwynebydd yn wendid er mwyn ennill


Kung Fu

Mae Kung Fu yn ddull ymladd Tseiniaidd traddodiadol

Mae’n cyfuno cicio, taro, troi’r corff, dulliau osgoi, cyrcydu, neidio, cwympo, a throsbennu

Cic–bocsio

 Mae cic–bocsio yn gorfforol iawn.  Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu cic–bocsio, awgrymir i chi ymweld â’ch clwb lleol i wylio sesiwn yn gyntaf

fewn y sesiwn ymarfer athletig hon byddwch yn gwneud bocsio cysgod, gwaith gyda bagiau trwm, cryfhau a chyflyru. Mae’n rhoi ffocws ar ochr uchaf y corff trwy ffyrdd gwahanol o ddyrnu, ac ar ochr isaf y corff trwy gicio

Rhaid gwisgo menig bocsio neu lapio’r arddyrnau wrth ymarfer

Fe elwir math poblogaidd o gic–bocsio yn gic–bocsio aerobeg neu gardiofasgwlaidd (‘cardio’), sy’n cyfuno elfennau bocsio, crefft ymladd ac aerobeg

Gwisgwch ddillad cyfforddus fel y gall eich breichiau a’ch coesau symud i bob cyfeiriad, a sicrhewch eich bod yn yfed digonedd o ddŵr cyn, ar ôl ac yn ystod ymarfer

Dechreuwch trwy gicio’n isel ac yna byddwch yn parhau i ddysgu technegau cic–bocsio eraill

Tai Chi

 Mae Tai Chi yn ymarfer traddodiadol Tseiniaidd i ymlacio’r meddwl a’r corff

Mae’n lleihau straen ac yn hyrwyddo lles cyffredinol y corff a’r meddwl 

Mae’n cyfuno symudiadau graslon, myfyrio a rheoli anadlu i wella llif egni eich corff.  Mae 108 o ymarferiadau cymhleth yn cael eu perfformio mewn ffordd araf, ymlaciedig, rhedegog dros gyfnod o 30 munud

Taekwondo

 Mae Taekwondo yn grefft ymladd Coreaidd sy’n debyg i carate

Mae’n grefft hunanamddiffyn

Mae’n rhoi pwyslais ar gicio uchel a dyrnu

Nod Taekwondo yw cicio a bwrw’ch gwrthwynebydd cymaint o weithiau ag sy’n bosib

Ceir tair rownd o dri munud ac mae’r ymladd yn digwydd ar fat wyth medr sgwâr

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.