Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Dan Do » Ffensio
- Dylech roi cais ar ffensio dim ond dan oruchwyliaeth athro cymwys a gan ddefnyddio’r dillad a chyfarpar cywir
- Rhaid i bob ffensiwr wisgo masg arbennig i amddiffyn eu hwyneb, a siaced fetelig
- Mae dau berson yn chwarae yn erbyn ei gilydd ac yn sgorio trwy daro corff ei wrthwynebydd gydag arf
- Mae gwifren electronig yn yr arf er mwyn cofnodi pan mae’r chwaraewyr yn sgorio
- Mae tri math o ffensio – epèe, ffwyliau (foils) a sabr (sabre) – mae pob un â rheolau sgorio gwahanol
- Mae’r rhan fwyaf o glybiau ffensio yn codi ffi aelodaeth sy’n cynnwys hyfforddiant a llogi’r cyfarpar
- Mae gan Ffensio Cymru ddau fath o aelodaeth iau:–
Aelodaeth iau
- Mae aelodau iau rhwng 13 a 20 blwydd oed a gallant gystadlu ym mhob digwyddiad Prydeinig a rhyngwladol perthnasol
Aelodaeth mysgedwr
- Mae aelodau mysgedwr dan 13 blwydd oed. Maen nhw’n cystadlu mewn digwyddiadau sirol a rhanbarthol, Pencampwriaethau Grŵp Oed Prydeinig, digwyddiadau grŵp oed perthnasol a Phencampwriaethau Ysgolion Cyhoeddus




