Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Dan Do » Gymnasteg a Thrampolinio

• Os ydych am geisio gwneud gymnasteg neu drampolinio, rhaid gwneud hynny dan oruchwyliaeth hyfforddwyr cymwys bob amser

• Mewn gymnasteg, byddwch yn gwneud sawl fath o ymarfer ar wahanol gyfarpar ac ar y llawr

• Mae’r rhain yn cynnwys ymarferiadau ar y llawr, y barrau parallel, y bïm, y ceffyl, y bar llorwedd, y barrau anghyfartal, y llofnaid (vault) a’r cylchoedd

• Gall gymnasteg wella eich hyblygrwydd a’ch cydbwysedd yn fawr

• Os yw clwb gymnasteg wedi cofrestru gyda Gymnasteg Cymru, bydd eu hyfforddwyr â chymhwyster hyfforddi a gydnabyddir gan Gymnasteg Cymru a Phrydain, sy’n rhoi pwyslais ar bwysigrwydd diogelwch

• Os ydych chi’n ddechreuwr, byddwch yn cychwyn trwy ddysgu ymarferiadau ar y llawr, gan gynnwys sut i lanio ar eich traed a’ch dwylo

• Ceir naw disgyblaeth o fewn gymnasteg gan gynnwys gymnasteg gyffredinol, gymnasteg artistig i ddynion, gymnasteg artistig i fenywod, gymnasteg rythmig, gymnasteg aerobig, tymblo, gymnasteg Ysgolion Cymreig a thrampolinio

Trampolinio

• Mae trampolinio yn cynnwys perfformio trefn benodol o drosbennau (somersaults) a throeon ar drampolïn

• Mae’r symudiadau’n cynnwys neidiau troelli (twist jumps), neidiau stradl wedi’ch plygu (piked straddle jumps), cwympiadau eistedd (seat drops) a chwympiadau cefn (back drops)

• Mae nifer o ysgolion yn cynnal gwersi gymnasteg a thrampolinio fel rhan o Gyfnod Allweddol Tri’r cwricwlwm.  Efallai y bydd cyfleusterau trampolinio a gymnasteg yn eich canolfan hamdden leol hefyd

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.