Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Dwr » Rhwyfo
- Dim ond nofwyr hyderus ddylai geisio rhoi cynnig ar rwyfo
- Mae rhwyfo’n golygu eistedd tuag yn ôl mewn cwch hir a defnyddio rhwyfau i symud y cwch a’i yrru ymlaen
- Mae pob aelod o’r tïm rhwyfo – neu griw – yn defnyddio dwy law i dynnu un rhwyf trwy’r dŵr
- Y ras rwyfo enwocaf oll yw’r cystadlaethau rhwng Rhydychen a Chaergrawnt ar afon Tafwys. Cynhaliwyd y ras gyntaf yn Henley yn 1829
- Mae sgwlio (sculling) yn fersiwn o rwyfo lle mae’r rhwyfwr yn rheoli dwy rwyf, un ymhob llaw
- Mae timoedd sgwlio yn cynnwys un, dau neu bedwar aelod; mae criwiau rhwyfo yn cael dau, pedwar neu wyth aelod, gyda neu heb cocs
- Gallwch rwyfo ar eich pen eich hun, neu mewn tïm gyda hyd at bedwar person arall
- Mae rasys yn cael eu cynnal dros bellter o hyd at ddau gilomedr. Y cwch cyntaf i groesi’r llinell yw’r enillydd
- Mae clybiau rhwyfo yn ffordd wych o gymryd rhan mewn chwaraeon a chwrdd â phobl newydd




