Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Gaeaf » Chwaraeon Iâ

  • Mae chwaraeon iâ yn cynnwys unrhyw weithgaredd a wneir ar iâ, yn cynnwys chwaraeon tïm a chwaraeon un person

Sglefrio ffigur

  • Gellir perfformio sglefrio ffigur fel unigolyn neu mewn parau
  • Mae’r perfformiadau’n cynnwys troi, neidio, sglefrio’n gyflym ar yr iâ, yn dilyn cerddoriaeth

Dawnsio iâ

  • Mae dawnsio iâ yn cael ei berfformio mewn parau ac yn canolbwyntio ar symudiadau dawnsio gosgeiddig ar iâ
  • Rhaid i bartneriaid fod mewn cysylltiad trwy gydol y perfformiad

Sglefrio cyflymder

  • Mae sglefrio cyflymder yn golygu sglefrio’n gyflym iawn o amgylch trac siâp hirgrwn
  • Enillydd ras sglefrio cyflymder yw’r person sy’n cwblhau’r ras yn yr amser byrraf. Mae cystadleuwyr yn rasio ar wahân i osgoi bwrw i mewn i’w gilydd

Trac byr

  • Mae trac byr yn wahanol i sglefrio cyflymder oherwydd bod yr holl gystadleuwyr yn rasio o amgylch trac iâ hirgrwn ar yr un pryd. Yn bur aml, mae hyn yn golygu y bydd llawer o wrthdrawiadau wrth i gystadleuwyr geisio ennill y ras

Cyrlio

  • Mae cyrlio’n dod yn fwyfwy poblogaidd yn dilyn llwyddiannau’r tïm Prydeinig yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2002 a 2006
  • Mae’n cael ei chwarae gan dimoedd sy’n cystadlu ar haen wastad o iâ
  • Y nod yw symud carreg fawr o un pen i ganol y targed yn y pen arall, trwy ddefnyddio ysgubellau i arwain y garreg

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.