Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Diddordebau » Gwirfoddoli

  • Rhoi eich amser sbâr i helpu pobl eraill yw gwirfoddoli
  • Gallwch chi wirfoddoli ar gyfer unrhyw beth, o dreulio amser yn helpu’ch cymdogion i ofalu am anifeiliaid sydd wedi cael eu hachub. Gan fod cymaint o wahanol ffyrdd o wirfoddoli, dylech chi allu dod o hyd i rywbeth fydd o ddiddordeb i chi
  • Yn ogystal â gwybod eich bod wedi helpu pobl eraill, mae gwirfoddoli hefyd yn gwneud lles ichi. Mae’n dangos eich bod chi’n gyfrifol ac yn ddibynadwy, a fydd yn ddefnyddiol pan ddewch i chwilio am swydd
  • Mae sawl ffordd o wirfoddoli. Gallwch chi gofrestru â sefydliad gwirfoddoli, a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i leoliad gwirfoddoli y byddwch chi’n ei fwynhau. Neu os gwyddoch pa gwmni y byddech chi’n hoffi gwirfoddoli ag ef, gallwch chi fynd yn uniongyrchol at y cwmni a gofyn a fyddan nhw’n derbyn gwirfoddolwyr. Mae gan y rhan fwyaf o brifysgolion gynllun gwirfoddoli, felly os byddwch chi’n mynd i’r brifysgol, gallwch chi barhau i wirfoddoli unwaith y byddwch chi yno

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50