Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Y Celfyddydau Perfformio » Cerddoriaeth
Mae perfformio a gwrando ar gerddoriaeth yn werth chweil ac yn lawer o hwyl. Gallech perfformio’n unigol, gyda grwp o ffrindiau mewn band, neu hyd yn oed fel rhan o gerddorfa.
Dysgu canu offeryn
Mae ystod anferth o offerynnau cerddorol i’w dysgu – ‘rydych yn sicr o ffeindio un sy’n apelio. Gallech hefyd sefyll arholiadau cerddorol er mwyn dangos faint ‘rydych yn ei ddysgu.
Mae offerynnau poblogaidd yn cynnwys:
– Piano
– Ffliwt
– Ffidil
– Sacsoffon
– Clarinet
– Gitar
– Drymiau
Mae llawer o ysgolion yn cynnig gwersi cerddoriaeth, ac efallai bydd ganddynt fand neu côr ysgol y gallech ymuno â nhw. Os nad ydych yn cael y cyfle i ddysgu yn yr ysgol, gweler y cysylltiadau isod. Mae llawer o wefannau i’ch helpu cysylltu ag athrawon cerddoriaeth yn eich hardal, ac hefyd gyda grwpiau sy’n edrych am gerddorwyr i ganu offerynnau gyda nhw.
Prynu cerddoriaeth
Bydd y mwyafrif o bobl eisiau prynu’r cerddoriaeth y maen’ nhw’n ei glywed, ac mae nifer o ffyrdd o wneud hyn.
Gallech prynu cerddoriaeth o lawer o archfarchnadoedd megis Tesco ac Asda, er bod siopau cerddoriaeth poblogaidd ar y stryd fawr yn cynnyws:
– HMV
– Virgin
– MVC
– Woolworths
– WHSmiths
Gallech naill ai prynu un gân yn unig ‘rydych yn ei hoffi (y sengl) neu’r albwm mae’r gân yn dod ohono, a fydd yn cynnwys llawer mwy o ganeuon gan yr un cerddorw(y)r
Lawrlwytho Cerddoriaeth
Mae llawer o bobl ifanc yng Nghymru yn prynu eu cerddoriaeth trwy ei lawrlwytho o’r rhyngrwyd.
Mae lawrlwytho wedi dod mor boblogaidd nes bod y nifer o wethiau y caiff caneuon eu lawrlwytho yn cyfri tuag at lwyddiant yn y siartiau.
Mae lawrlwytho cerddoriaeth yn gyfreithlon os ydych yn talu amdano ac os nad ydych yn ei basio ymlaen at bobl eraill. Os ydych yn lawrlwytho yn anghyfreithlon neu’n rhannu ffeiliau gallech wynebu dirwyon hyd at filoedd o bunnoedd.
Mae’r wefannau canlynol yn eich caniatau i lawrlwytho cerddoriaeth yn gyfreithlon:
– Bleep
– Connect
– HMV Digital
– iTunes Music Store
– Karma Download
– MSN Music Club
– Napster UK
– Virgin Digital
– Wippit




