Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant

Ar ôl Blwyddyn 11 mae’n rhaid i chi wneud rhai penderfyniadau am eich dyfodol: a ydych am aros yn yr ysgol, mynd i’r coleg neu gael swydd. Gall dechrau hyfforddiant neu ddod o hyd i swydd ymddangos yn dasg anodd, sy’n golygu gadael eich cyd-ddisgyblion a’ch ffrindiau a’r arferion yr ydych wedi dod i arfer â nhw ers blynyddoedd. Ond mae llawer o gyngor a chymorth ar gael i’ch cefnogi i wneud y penderfyniad iawn.

Os ydych yn awyddus i ddechrau gwaith ar unwaith, efallai y gellid eich temtio i gymryd swydd lle na ddarperir hyfforddiant ond efallai nad dyma’r dewis gorau oherwydd fod hyfforddiant a chymwysterau yn eich helpu i symud i fyny’r ysgol gyrfa. Cyn i chi dderbyn swydd, darganfyddwch pa hyfforddiant a gynigir i chi, gan gynnwys unrhyw gymwysterau y gallwch astudio tuag atynt a sut y gallwch symud ymlaen yn y cwmni.

Gofalwch eich bod yn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer eich grŵp oed o leiaf, sef y gyfradd tâl am bob awr y bydd gennych hawl iddi yn ôl y gyfraith yn y DU. Fe’i hadolygir bob blwyddyn, felly gwiriwch beth yw’r gyfradd ar hyn o bryd.

Mae ffyrdd hefyd y gallwch ddysgu a hyfforddi wrth i chi weithio ac os ydych yn 16 neu yn 17 ac yn gyflogedig ond nad oes gennych lawer o gymwysterau mae gennych bellach yr hawl i amser taledig i ffwrdd o’r gwaith i astudio neu i hyfforddi.

I gael cyngor ac awgrymiadau am waith a hyfforddiant cliciwch ar yr amrywiol erthyglau yn yr adran hon neu ar y dolennau i wefannau eraill i ddarganfod mwy.

Sefydliadau

1 CommentPostiwch sylw

kranenvuhurr

kranenvuhurr

Rhoddwyd sylw 27 mis yn ôl - 31st March 2011 - 15:21pm

with employment there is a training organisation known as CITB which are based mainly on construction skills and help teenagers through to employment by helping to fund accomodation meals and travel exspenses to colleges providing that you have spoke to an employer and got advice and seen if an apprentership is offered to you. You wil;l get paid by your employer to study your apprentership. I fully enjoyed doing mine and due to complete mine hopefully this year hop[e this article helps.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50