Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Bod mewn Cyflogaeth » Contractau
Amodau a thelerau cyflogaeth
- Pan fyddwch chi'n dechrau gweithio, bydd yn rhaid ichi gytuno ar amryw o bethau gyda'ch cyflogwr, er enghraifft:
- yr oriau y mae disgwyl ichi eu gweithio
- eich cyfraddau tâl
- faint o amser y cewch chi ei gymryd o'r gwaith
- Amodau a thelerau cyflogaeth yw'r enw ar y rhain.
- Mae gennych chi hawl i gael copi ysgrifenedig o amodau a thelerau cyflogaeth cyn pen dau fis o ddechrau swydd.
Eich contract cyflogaeth
- Mae amodau a thelerau cyflogaeth rydych chi a'ch cyflogwr wedi cytuno arnyn nhw'n cael eu hystyried yn gontract.
- Gall y contract yma fod yn ysgrifenedig neu'n gytundeb llafar, neu'n gyfuniad o'r ddau.
- Mae'n well - i'r cyflogwr ac i'r gweithiwr - os yw o leiaf rhan o'r contract ar ffurf ysgrifenedig.
- Y rheswm am hyn yw y gall cytundeb llafar, er ei fod yn gyfreithiol rwymol, fod yn anodd i'w orfodi os nad oes digon o brawf ei fod wedi digwydd.
- Mae angen ichi gytuno ar delerau'ch contract, felly mae'n bwysig nad ydych chi'n llofnodi unrhyw beth nes eich bod chi'n hapus.
- Gallwch chi geisio trafod newidiadau i'r contract (er hynny, yn ymarferol, gall hyn fod yn anodd i'w wneud weithiau).
- Mae contractau cyflogaeth yn gyfreithiol rwymol, felly fel arfer nid yw'n bosib eu newid os nad yw'r ddwy ochr yn cytuno.
Yn ystod eich cyflogaeth, os yw'ch cyflogwr yn gwneud newidiadau i'ch contract heb ichi gytuno arnyn nhw gallwch chi geisio iawndal oddi wrth eich cyflogwr am dorri amodau contract (ar ôl i'ch cyflogaeth ddod i ben). Byddech chi'n gwneud hyn drwy fynd â chwyn gerbron Tribiwnlys Diwydiannol. - Efallai hefyd y bydd gennych chi hawl i ymddiswyddo a mynd â chwyn o ddiswyddo deongliadol neu ddiswyddo annheg gerbron Tribiwnlys Diwydiannol.
- 'Diswyddo deongliadol' yw'r sefyllfa pan fydd strategaeth fwriadol o erlid yn cael ei defnyddio i orfodi gweithiwr i adael ei swydd.
- Os byddwch chi'n colli cyflog o ganlyniad i newid yn eich contract, gallwch chi fynd â chwyn gerbron Tribiwnlys Diwydiannol, yn ôl amodau'r Ddeddf Cyflogau. Mae cyfyngiad amser o dri mis ar gyfer y math yma o gŵyn.
- Er nad oes yn rhaid i gontract cyflogaeth fod yn ysgrifenedig, mae Deddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 yn dweud bod yn rhaid i unrhyw un sy'n gweithio am fis neu fwy gael datganiad ysgrifenedig o'u manylion cyflogaeth oddi wrth eu cyflogwr.
- Dylai manylion cyflogaeth gynnwys:
- teitl eich swydd;
- lle mae disgwyl ichi weithio;
- eich oriau gwaith;
- faint, pryd a sut fyddwch chi'n cael eich talu;
- manylion eich gwyliau a ph'un a fyddwch chi'n cael eich talu ai peidio;
- trefniadau absenoldebau eraill (er enghraifft absenoldeb oherwydd salwch, a chyfnod mamolaeth neu gyfnod tadolaeth); a,
- faint o rybudd sy'n rhaid i'ch cyflogwr ei roi os yw'ch contract yn cael ei derfynu.
- Os nad ydych chi'n cael datganiad ysgrifenedig cyn pen dau fis o ddechrau gweithio, gallwch chi fynd â chwyn gerbron Tribiwnlys Diwydiannol.
- Os oes unrhyw delerau ac amodau cyflogaeth yn newid, mae'n rhaid i'9 ch cyflogwr roi gwybod ichi'n ysgrifenedig cyn gynted â phosib, a chyn pen mis o'r newid fan bellaf.
Hawliau newydd i weithwyr ifanc
- Ar y 1af Hydref 1998, daeth Cyfarwyddeb Gweithwyr Ifanc i rym yn y DU.
- Mae'n rhoi hawliau newydd i weithwyr ifanc o ran uchafswm oriau gweithio, isafswm egwyliau dyddiol ac wythnosol, cyfyngiadau ar weithio yn ystod y nos ac isafswm hawliau gwyliau â thâl.
- Y diffiniad o Weithiwr Ifanc yw rhywun sy'n hŷn nag oedran gadael ysgol gorfodol, ond nad yw eto'n 18 oed.
- I gael gwybodaeth a chyngor, cysylltwch â'r Uned Cyflogau Isel leol yn eich cyngor lleol.
Dod â'ch cyflogaeth i ben
- Os yw'ch cyflogwr yn dod â'ch cyflogaeth i ben, neu os yw'ch contract cyflogaeth wedi dod i ben, yn ôl y gyfraith mae gennych chi hawl i gael rhybudd.
- Os ydych chi wedi gweithio gyda'ch cyflogwr am o leiaf un mis, ond llai na dwy flynedd, mae gennych chi hawl i wythnos o rybudd.
- Os ydych chi wedi gweithio am dair blynedd yn ddi-dor, mae gennych chi hawl i dair wythnos o rybudd, ac ymlaen ar yr un patrwm hyd at uchafswm o 12 mlynedd (pan mae gennych chi hawl i 12 wythnos o rybudd).
- Gallwch chi fynd ag unrhyw anghydfod ynghylch y rhybudd rydych chi'9 n ei gael gerbron Tribiwnlys Diwydiannol.
- Hefyd, mae gan Ganolfannau Byd Gwaith lyfryn sy'n rhad ac am ddim o'r enw Rights to notice and reasons for dismissal (rhif taflen PL707). Mae hwn yn rhoi esboniad mwy manwl o hyn i gyd.
- Gall contractau yn y gwaith hefyd gynnwys yr hyn a elwir yn 'gytundebau arfer a defod'. Mae hyn yn golygu y gallai rhywbeth sy'n arfer normal mewn sefydliad, ac sydd wedi'i gymeradwyo gan y rheolwyr, hefyd fod yn rhan o'ch contract, er nad yw wedi'i ysgrifennu ynddo. Felly os yw pawb yn y gwaith fel rheol yn cael dau ddiwrnod ychwanegol o wyliau dros y Nadolig, ond nad yw hyn yn y contract ysgrifenedig, mae'n bosib ei fod yn rhan o'r contract rhyngoch chi a'ch cyflogwr gan mai dyna sy'n arferol.
- Mae gennych chi hefyd hawliau cyflogaeth eraill yn ôl y gyfraith (sef eich hawliau statudol). Darllenwch ein herthygl am y rhain.
Contractau anghyfreithlon
- Mae rhai mathau o gontractau'n anghyfreithlon.
- Mae amodau'n anghyfreithlon pan mae'r tâl i gyd, neu gyfran ohono, yn 'arian mewn llaw' a phan nad yw Treth Incwm nac Yswiriant Cenedlaethol yn cael eu talu pan ddylen nhw.
- Os ydych chi'n cael contract fel hyn, ceisiwch gyngor oddi wrth eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol neu ffoniwch y Gwasanaeth Hawliau Cyflogaeth.




