Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Bod mewn Cyflogaeth » Dismissal
- Mae cael eich diswyddo (neu 'cael y sac' i roi enw arall arno) yn golygu bod eich cyflogwr yn dweud wrthych chi am adael.
- Mae llawer o resymau pam y gallai hyn ddigwydd:
- Gall y cyflogwr benderfynu nad ydych chi'n gallu gwneud y gwaith yn iawn.
- Efallai eich bod chi wedi gwneud rhywbeth yn anghywir (yn aml, ' camymddwyn difrifol' yw'r enw ar hyn).
- Weithiau, bydd cyflogwyr hefyd yn gwrthod cymryd gweithwyr yn ôl yn dilyn cyfnod mamolaeth neu gyfnod o salwch.
- O bryd i'w gilydd, byddan nhw'n seilio'u penderfyniad ar fywyd personol y gweithiwr.
- Weithiau, bydd cyflogwyr yn gwneud bywyd mor anodd ichi yn y gwaith fel y byddwch chi'n penderfynu gadael - 'diswyddo deongliadol' yw'r enw ar hyn.
- Os oes rhywun wedi dweud wrthych chi am adael am un o'r rhesymau yma (neu efallai am reswm arall) a chithau'n credu na ddylen nhw fod wedi gofyn ichi fynd, mae yna wahanol bethau y gallwch chi eu gwneud, gan ddibynnu ar ba mor hir rydych chi wedi bod yn gweithio gyda'r cwmni.
- I ddechrau, gwiriwch eich contract cyflogaeth i weld faint o rybudd ysgrifenedig y dylai'ch cyflogwr ei roi ichi.
- Os yw'ch cyflogwr yn eich diswyddo chi yn y fan a'r lle, neu os nad yw'n rhoi digon o rybudd ichi, fel rheol gallwch chi hawlio unrhyw enillion y gwnaethoch chi eu colli am beidio â gweithio drwy gyfnod eich rhybudd. Os yw'ch cyflogwr yn gwrthod talu'r enillion yma rydych chi wedi'u colli, ceisiwch gyngor cyfreithiol.
- Os ydych chi wedi bod gyda'r cwmni am o leiaf dwy flynedd yn ddi-dor, fe gewch chi hawlio achos o ddiswyddo annheg a, chyda help cynghorydd cyfreithiol, gallwch chi fynd â'ch cyflogwr gerbron Tribiwnlys Diwydiannol.
- Ar hyn o bryd, mae Llys Cyfiawnder Ewrop wrthi'n penderfynu a yw'r gofyniad o ddwy flynedd yn groes i gyfraith Ewropeaidd, ar y sail ei fod yn gwahaniaethu yn erbyn menywod. Y rheswm am hyn yw bod menywod yn fwy tebygol o ddychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod o ofalu am blentyn, ac yn fwy tebygol o weithio i fwy nag un cyflogwr.
- Os ydych chi'n fenyw, a'ch swydd wedi'i dileu ar ôl llai na dwy flynedd ddi-dor o weithio, dylech chi geisio cyngor cyfreithiol.
- Os ydych chi wedi cael eich diswyddo ar sail rhyw, hil neu aelodaeth o undeb llafur, am wrthod ymuno ag undeb, am weithredu sy'h n ymwneud ag iechyd a diogelwch neu am geisio gorfodi hawl cyflogaeth statudol (fel yr hawl i gael datganiad ysgrifenedig), nid oes yn rhaid ichi fod wedi gweithio i'r cyflogwr am ddwy flynedd.
- Dylech chi gysylltu â'ch cynrychiolydd undeb os ydych chi'n aelod o undeb, neu swyddfa Cyngor ar Bopeth (CAB) (gwelwch y cyswllt isod). Bydd yr asiantaethau yma'n eich helpu i baratoi achos i fynd ag ef gerbron Tribiwnlys Diwydiannol. Gall eich cangen ACAS leol (Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu - gwelwch y cyswllt isod) eich cynghori chi ar eich hawliau cyfreithiol. Ni ddylech chi ohirio'ch cais am gyfnod rhy hir - mae'n rhaid iddo gyrraedd y Tribiwnlys Diwydiannol cyn pen tri mis o ddyddiad y diswyddo.
- Os ydych chi wedi gweithio i'r cwmni am fwy na dwy flynedd (naill ai'n rhan amser neu'n amser llawn) yna dylai'ch cyflogwr ddarparu esboniad ysgrifenedig o'ch diswyddiad cyn pen pedwar diwrnod ar ddeg o'r dyddiad y gwnaethoch chi ofyn amdano.




