Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Bod mewn Cyflogaeth » Redundancy
- Ystyr dileu swydd yw bod rhywun yn gofyn ichi adael eich gwaith oherwydd nad oes angen y swydd rydych chi'n ei gwneud bellach neu oherwydd nad yw'r arian bellach ar gael i'ch talu chi.
- Gall hyn fod am amryw o resymau:
- Efallai fod y cwmni rydych chi'n gweithio iddo wedi mynd â'i ben iddo, neu bod busnes yn araf deg a bod yna ormod o staff.
- Efallai fod y cwmni'n symud i ardal newydd neu bydd technoleg newydd yn gwneud eich gwaith chi.
- Mae gennych chi hawl i dâl dileu swydd oddi wrth eich cyflogwr os ydych chi wedi gweithio i'r cwmni am gyfnod o fwy na dwy flynedd yn ddi-dor ers ichi fod yn 18 oed.
- Mae isafswm tâl dileu swydd yn cael ei gyfrifo ar sail nifer y blynyddoedd rydych chi wedi'u gweithio a'ch oedran.
- Ond mewn llawer o gwmnïau, ac i bobl sy'n gweithio mewn sefydliadau llywodraeth leol neu gyhoeddus, efallai fod yr undeb wedi trafod telerau cytundeb gwell â'r cyflogwr. Bydd hyn yn golygu tâl dileu swydd ar gyfradd uwch.
- Os ydych chi'n gweithio ar gontract tymor byr, nid oes gennych chi hawl i gael tâl dileu swydd os yw'ch contract yn dod i ben ac nad yw'n cael ei adnewyddu.
- Nid yw tâl dileu swydd yn ffafrio pobl ifanc mewn gwirionedd gan ei fod wedi'i seilio ar oedran a hyd y cyfnod rydych chi wedi gweithio.
- Os yw'ch swydd yn cael ei dileu gall hyn beri cryn straen, ond gall hefyd gynnig cyfleoedd newydd.
- Mae gan Gyrfa Cymru lawer o help a chyngor os ydych chi'n wynebu colli'ch swydd, gan gynnwys manylion ariannu a allai'ch cynorthwyo -s dilynwch y cyswllt isod.




