Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Bod mewn Cyflogaeth » Undebau

  • Mudiadau a ffurfiwyd er mwyn diogelu pobl yn y gwaith yw Undebau Llafur.
  • Mae ganddyn nhw hanes hir o ddiogelu buddiannau gweithwyr trwy drafod a siarad â chyflogwyr ar ran eu haelodau.
  • Trwy ddod at ei gilydd mewn undeb, gall gweithwyr rannu'u pryderon ynghylch gwaith a chyflwyno cynrychiolaeth unedig i'r rheolwyr.
  • Fel rheol, os oes gan weithle undeb, bydd gweithwyr sy'n aelodau o'r undeb yn ethol nifer o'u cydweithwyr i'w cynrychioli.
  • Weithiau, mae'r bobl hyn yn cael eu galw'n stiwardiaid undeb, ac maen nhw yno i'ch cynghori chi a datrys unrhyw drafferthion y gallech chi fod yn eu hwynebu yn y gwaith.
  • Ceir mwy nag un undeb mewn rhai gweithleoedd, yn enwedig y rheiny sy'n cyflogi gweithwyr ag amrywiaeth o gyfrifoldebau a sgiliau.
  • Mae agwedd cyflogwyr tuag at undebau'n amrywio - o elyniaeth lwyr (sy'n beth prin, ond mae'n dal i fodoli) i gydweithredu ac ymgynghori'n rheolaidd ynghylch materion yn ymwneud â pholisi.
  • Pan fyddwch chi'n dechrau gweithio, efallai y cewch chi wahoddiad i ymuno â'r undeb. Nid oes yn rhaid i weithwyr ymuno ag undeb os nad ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny, ac ni ddylen nhw oddef unrhyw ffurf ar wahaniaethu yn eu herbyn os ydyn nhw'n dewis peidio ag ymuno. Yn yr un modd, ni ellir eu gorfodi i gymryd rhan mewn 'gweithredu diwydiannol' (mynd ar streic).
  • Er mwyn i weithredu diwydiannol fod yn gyfreithiol ddilys, mae'n rhaid i fwyafrif aelodau'r undeb gytuno drwy bleidlais gudd.
  • Mae gennych chi hawl gyfreithiol i beidio â chael eich diswyddo na chael eich swydd wedi'i dileu oherwydd eich bod chi'n aelod o undeb llafur o'ch dewis, a dim arall.
  • Nid oes yn rhaid i gyflogwyr drafod telerau ag undebau, ond mae hi'n anghyfreithlon iddyn nhw ddiswyddo pobl oherwydd eu bod nhw'n aelod o undeb, a dim arall.
  • Mae'r rhan fwyaf o undebau'n derbyn aelodau o 16 mlwydd oed ac mae gan rai, er enghraifft USDAW (Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol), bwyllgorau ieuenctid sy'n sicrhau bod barn pobl ifanc yn cael ei chynrychioli ar bwyllgorau undeb sy'n gwneud penderfyniadau.
  • Mae gan y rhan fwyaf o undebau gyfraddau ymaelodi arbennig ar gyfer pobl ifanc, yn enwedig os ydych chi'n gwneud Hyfforddiant Ieuenctid neu os ydych chi ar leoliad gwaith.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.