Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Cael swydd » CVs
- Eich CV (talfyriad o Curriculum Vitae) yw'ch cyfle chi i werthu'ch hunan i ddarpar gyflogwr.
- Crynodeb ohonoch chi ydyw. Mae'n cynnwys manylion am eich profiad gwaith, eich sgiliau a'ch galluoedd, eich oedran, eich ysgol ac arholiadau rydych chi wedi llwyddo ynddyn nhw, neu arholiadau rydych chi'n mynd i'w sefyll.
Awgrymiadau cyffredinol ar lunio CV
- Ni ddylai CV fod yn hwy na 2 ochr o bapur maint A4, felly peidiwch â malu awyr!
- Peidiwch â meddwl bod yn rhaid ichi gynnwys popeth - ceisiwch benderfynu ar eich nodweddion gorau a'r hyn sy'n berthnasol i'r swydd neu'r swyddi rydych chi'n gwneud cais amdani neu amdanyn nhw, a glynwch at y rhain.
- Defnyddiwch brosesydd geiriau ac argraffwch eich CV ar bapur plaen gwyn neu liw hufen, (os nad oes cyfrifiadur gennych chi gartref, gallwch chi ddefnyddio un yn eich canolfan gyrfa, llyfrgell neu ganolfan ieuenctid lleol yn ôl pob tebyg).
- Mae'n bwysig gwerthu'ch hunan, ond peidiwch â chael eich temtio i ddweud celwydd - bydd yn rhaid ichi brofi'r hyn rydych chi'n ei ddweud mewn cyfweliad.
- Cofiwch ddiweddaru'ch CV yn aml, yna bydd yn barod gennych chi bob amser.
- Cofiwch nad oes yn rhaid ichi weld hysbyseb am swydd wag cyn anfon eich CV. Gallwch chi anfon llythyr eglurhaol gyda chopi o'ch CV at gwmnïau / sefydliadau y mae gennych chi ddiddordeb mewn gweithio iddyn nhw - wyddoch chi ddim, efallai bod swydd wag ganddyn nhw!





1 Comment – Postiwch sylw
natalie_c
Rhoddwyd sylw 29 mis yn ôl - 5th January 2010 - 03:54am
I was unsure what to put in my CV and this really helped. For anyone else writing a CV, there are loads of great templates either on Microsoft Word or online so be sure to check them out before you start!