Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Cael swydd » Ffurflenni Cais

  • Mae ffurflenni cais yn gyfle ichi werthu'ch hun i gyflogwr.
  • Dyma'r brif ffordd mae cyflogwyr yn dewis pobl ar gyfer cyfweliadau am swyddi, felly mae'n bwysig eich bod chi'n eu gwneud nhw'n iawn.

Awgrymiadau cyffredinol ar gyfer cwblhau ffurflen gais

  • Gall rhai ffurflenni fod yn gymhleth, felly gofynnwch am help os oes ei angen arnoch chi - Cynghorydd Gyrfa, Athro, Rhiant, Gweithiwr Ieuenctid.
  • Cymerwch eich amser - os yw'n bosib, gwnewch lungopi o'r ffurflen gais wreiddiol a defnyddiwch y copi yma i ymarfer arno'n gyntaf.
  • Does dim byd gwaeth na ffurflen gais grychlyd gyda marciau drosti. Unwaith rydych chi'n hapus â hi, llenwch y ffurflen wreiddiol mewn inc du.
  • Rhowch yr hyn maen nhw'n ei ofyn amdano iddyn nhw! Darllenwch y cyfarwyddiadau'n ofalus, a dilynwch nhw. Os ydyn nhw'n gofyn am CV, anfonwch un. Os nad ydyn nhw'n gofyn, peidiwch! Os ydyn nhw'n gofyn ichi ei theipio, gwnewch hynny. Ond fel arall, ysgrifennwch hi mor daclus ag y medrwch chi.
  • Defnyddiwch eich CV i'ch helpu i lenwi'r ffurflen.
  • Mae'n bwysig gwerthu'ch hun, ond peidiwch â chael eich temtio i ddweud celwydd. Mae gan gyflogwr hawl i ddiswyddo rhywun sydd wedi ei gamarwain yn fwriadol ar ffurflen gais neu mewn cyfweliad.
  • Llenwch bob adran neu ysgrifennwch 'Heb fod yn Berthnasol'.
  • Gofynnwch ganiatâd y canolwyr cyn defnyddio'u henwau.
  • Os oes angen, llofnodwch y ffurflen a nodwch y dyddiad arni.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw copi o'r ffurflen wedi'i llenwi - bydd yn help ichi baratoi os byddwch chi'n cael cyfweliad.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ei dychwelyd erbyn y dyddiad cau.
  • Anfonwch lythyr eglurhaol os ydych chi am ychwanegu mwy o wybodaeth.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.