Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Cael swydd » Lle i edrych am swyddi

Gyrfa Cymru

  • Mae Gyrfa Cymru'n cynnig gwasanaeth swyddi gwag i bobl ifanc rhwng 16 a 19 mlwydd oed.
  • Gallan nhw'ch helpu chi i gydweddu'ch hunan i swyddi gwag addas yn eich ardal.
  • Mae swyddi gwag yn cael eu harddangos yn eu Canolfannau Gyrfa a'u Siopau Gyrfa.
  • Dyma hefyd lle y dylech chi fynd gyntaf ar gyfer cyfleoedd hyfforddi gwag fel prentisiaethau.
  • Rhestrir swyddi a chyfleoedd gwag yn www.gyrfacymru.com hefyd

Canolfan Gwaith/ Canolfan Byd Gwaith

  • Gall unrhyw un alw heibio i'w Canolfan Gwaith lleol i edrych ar y swyddi gwag sy'n cael eu hysbysebu.
  • Mae'n rhaid ichi gofrestru yn eich Canolfan Gwaith lleol os ydych chi am wneud cais am fudd-daliadau (fel rheol, nid oes hawl gan bobl sy'n iau na 18 mlwydd oed i wneud cais am fudd-daliadau).
  • Gallwch chi weld swyddi gwag y mae'r Canolfan Gwaith yn eu hysbysebu ar-lein yn: 
    http://www.direct.gov.uk/cy/Employment/Jobseekers/index.htm

Asiantaethau Recriwtio

  • Enwau eraill arnyn nhw yw Asiantaethau Cyflogaeth neu Asiantaethau Gweithwyr Dros Dro, ac mae cwmnïau'n cysylltu â nhw er mwyn hysbysebu eu swyddi gwag ac er mwyn i'r asiantaethau chwilio am bobl addas i lenwi'r swyddi hynny ar eu rhan.
  • Yn aml, bydd yr asiantaethau hyn yn arbenigo mewn recriwtio i fathau arbennig o waith e.e. gwaith swyddfa, adeiladu, gwaith ffatri, manwerthu a dosbarthu, gweithio fel nani neu au pair, amaethyddiaeth a gwaith tymhorol.
  • Yn aml, cyfleoedd dros dro yw'r swyddi gwag, ond weithiau gallan nhw arwain at swyddi parhaol.
  • Gallwch chi gofrestru ag asiantaeth, gan roi iddyn nhw'r holl fanylion perthnasol am eich sgiliau, eich profiad a'ch cymwysterau, a gallan nhw'ch rhoi chi mewn cysylltiad â chwmnïau os bydd cyfleoedd gwag addas yn codi.
  • Edrychwch yn y Yellow Pages neu ewch i www.yell.com i ddod o hyd i asiantaethau yn eich ardal chi.
  • Mae asiantaethau recriwtio (gwelwch isod) yn hysbysebu llawer o swyddi ar y Rhyngrwyd.

Papurau Newydd

  • Bydd llawer o gwmnïau'n defnyddio hysbysebion mewn papurau newydd pan fyddan nhw'n recriwtio.
  • Gallwch chi ddod o hyd i hysbysebion mewn papurau newydd cenedlaethol a lleol.
  • Mae gan y rhan fwyaf o bapurau newydd ddiwrnodau penodol ar gyfer hysbysebion recriwtio, ac mae gan rai ddiwrnodau penodol ar gyfer mathau penodol o swyddi.
  • Mae'n werth edrych ar wahanol bapurau newydd er mwyn cael syniad o'/ r math o hysbysebion maen nhw'n dueddol o'u cael - ydyn nhw'n cynnwys hysbysebion fyddai o ddiddordeb i chi?
  • Os nad ydych chi am eu prynu nhw, ewch i'ch llyfrgell leol; fel rheol mae ganddyn nhw ddewis o bapurau newydd y cewch chi edrych arnyn nhw'n rhad ac am ddim.
  • Gallech chi hefyd geisio edrych ar wefannau papurau newydd.
  • Cofiwch fod y papurau newydd cenedlaethol e.e. The Times, The Guardian, The Daily Telegraph yn cynnwys hysbysebion am swyddi ledled y DU, a bod eich papur newydd lleol fel rheol yn cynnwys hysbysebion am swyddi lleol e.e. South Wales Argus, South Wales Echo, Free Press, Daily Post. Mae The Western Mail yn cynnwys hysbysebion am swyddi ledled Cymru.

Y Rhyngrwyd

  • Mae chwilio am swyddi gwag ar-lein yn dod yn gyffredin iawn.
  • Mae llawer o gwmnïau bellach yn hysbysebu swyddi gwag ar eu gwefannau eu hunain - ond nid yw hi bob amser yn amlwg bod yna swyddi gwag ar y gwefannau hyn, felly mae'n werth mynd i edrych yn yr adrannau Personèl, Gwybodaeth Gorfforaethol/Gwybodaeth am y Cwmni neu'r adran Amdanom Ni.
  • Bydd gwefannau eraill yn cynnwys hysbysebion gydag asiantaethau recriwtio (gwelwch uchod).
  • I gael rhestr o wefannau recriwtio defnyddiol ewch i gyrfacymru.com https://www.gyrfacymru.com/links/weblinks.asp?page=LNK_ADMIN&module=LNK&crci=CRCI_11

Cylchgronau

  • Mae rhai cylchgronau'n cynnwys hysbysebion am swyddi gwag.
  • Fel rheol, swyddi sy'n gysylltiedig â phwnc y cylchgrawn ydyn nhw e.e. Farmers Weekly - swyddi ym myd amaethyddiaeth; Horse and Hound - swyddi'n sy'n ymwneud â gweithio gyda cheffylau ac, yn rhyfedd ddigon, rhai swyddi ar gyfer Nanis; Nursery World a The Lady - swyddi ar gyfer Nanis a Nyrsys Meithrin; cylchgronau Teithio - swyddi ym myd twristiaeth; Young People Now - Gwaith Ieuenctid.

Ffenestri Siopau/Hysbysfyrddau

  • Gan fod costau hysbysebu'n uchel, weithiau bydd busnesau'n gosod hysbysebion mewn ffenestri ac ar hysbysfyrddau.
  • Yn aml bydd siopau, archfarchnadoedd, tafarndai, siopau trin gwallt ac ati'n gwneud hyn. Felly cadwch eich llygaid ar agor.
  • Mae hefyd yn werth edrych am hysbysebion yn ffenestri'ch siop bapur leol.

Ar lafar gwlad a galw ar hap

  • Nid yw rhai swyddi fyth yn cael eu hysbysebu.
  • Siaradwch â phobl sy'n gweithio mewn swyddi sydd o ddiddordeb i chi a gofynnwch iddyn nhw roi gwybod ichi os oes unrhyw swyddi gwag yn codi.
  • Neu defnyddiwch eich pen blaen ac ysgrifennwch lythyr ar sbec gan amgáu CV.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.