Rydych chi yma: Hafan » Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Dechrau gwaith » Archwiliadau cyn cyflogaeth
Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Dechrau gwaith » Archwiliadau cyn cyflogaeth
- Pan fyddwch chi’n dechrau mewn swydd newydd, efallai y bydd eich cyflogwr yn dymuno gwirio nifer o bethau i weld a ydych chi’n addas.
- Bydd y mathau o bethau y bydd eich cyflogwr yn eu gwirio’n dibynnu ar y swydd.
Dogfennau adnabod
- Cyn ichi ddechrau gweithio i gyflogwr newydd, mae'n debygol y bydd am weld prawf bod gennych chi hawl i weithio yn y DU.
- Bydd angen ichi ddangos dogfen, neu gyfuniad o ddogfennau, i gadarnhau eich bod chi’n gymwys (ee tystysgrif geni, pasport, fisa neu drwydded weithio os nad ydych chi'n ddinesydd cenedlaethol). Dylai’r cyflogwr ddweud wrthych chi pa ddogfennau sydd angen ichi eu dangos iddyn nhw.
- Bydd y dogfennau fydd eu hangen arnoch chi'n dibynnu ar p'un a ydych chi'n weithiwr, yn gyflogai neu'n hunangyflogedig
Geirdaon
- Mae’n bosib y bydd cynnig swydd ichi’n dibynnu ar eirda oddi wrth eich cyflogwr presennol, ac efallai cyflogwyr blaenorol hefyd.
Archwilio cefndir
- Pan mae swydd yn gysylltiedig â diogelwch eiddo, efallai y bydd cyflogwr am archwilio cefndir.
- Yn achos rhai swyddi gwasanaethau ariannol, efallai y bydd hyn hefyd yn cynnwys eich hanes credyd.
- Dylai’r cyflogwr drin pob ymgeisydd am swydd yn yr un modd yn ystod y broses recriwtio.
Monitro cyfle cyfartal
- Nid oes cyfraith yn erbyn casglu gwybodaeth am hil ac ethnigrwydd wrth recriwtio. Mae llawer o sefydliadau’n dewis gwneud hynny er mwyn monitro effeithiolrwydd eu polisi cyfle cyfartal. Fodd bynnag, nid oes yn rhaid ichi roi'r wybodaeth yma os nad ydych chi am wneud hynny.
- Os ydych chi’n meddwl bod rhywun yn archwilio’n fwy manwl i’ch cefndir chi nag i gefndir unrhyw un arall oherwydd eich ethnigrwydd, gallwch chi fynd â chwyn gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth yn ôl deddfau gwahaniaethu ar sail hil.
- Ni ddylai cyflogwr eich trin chi'n wahanol am fod gennych chi 'olwg tramorwr’ neu bod gennych chi enw ‘tebyg i dramorwr’.
- Ni ddylai cyflogwr eich trin chi'n wahanol oherwydd eich rhyw, eich statws priodasol, eich tueddfryd rhywiol na'ch crefydd. Er enghraifft, os ydych chi'n fenyw, ni ddylai unrhyw un ofyn ichi a ydych chi'n bwriadu cael plant yn fuan, gan y gallai hyn gael ei ddefnyddio i wahaniaethu yn eich erbyn a ffafrio ymgeisydd gwryw.
Archwiliadau iechyd
- Efallai y bydd yn rhaid ichi gael archwiliad iechyd os yw hynny'n un o ofynion cyfreithiol y swydd (er enghraifft, cael prawf llygaid ar gyfer swydd fel gyrrwr).
- Dylech chi gael gwybod am unrhyw archwiliadau iechyd yn y llythyr sy'n cynnig y swydd ichi.
- Efallai y bydd eich cyflogwr yn gofyn am adroddiad meddygol, ond os ydyn nhw am gael un, mae'n rhaid iddyn nhw fod â pholisïau ar gyfer ei gadw'n ddiogel.
- Os ydych chi’n anabl, ni ddylid defnyddio'ch anabledd fel rheswm dros eich dewis chi’n benodol ar gyfer archwiliad iechyd heb reswm da. Os ydi hyn yn digwydd i chi, a bod hynny’n arwain at beidio â chael y swydd, gallwch chi fynd â chwyn gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth.
- Mae’n anghyfreithlon anffafrio pobl anabl oherwydd eu hanabledd. Dydi hyn ddim yn golygu y bydd hi bob amser yn anghyfreithlon i gyflogwr ofyn i rywun anabl gael archwiliad iechyd, hyd yn oes os na ofynnir i ymgeiswyr eraill. Bydd yn dibynnu ar natur eich anabledd ac anghenion y swydd.
Archwilio cymwysterau
- Os oes angen cymwysterau, hyfforddiant neu drwyddedau penodol arnoch chi ar gyfer swydd, gall eich cyflogwr ofyn am brawf eu bod nhw gennych chi.
- Dylen nhw roi gwybod ichi os ydyn nhw'n cynnal yr archwiliadau yma ac os ydyn nhw'n bwriadu cadw copïau o unrhyw ddogfennau perthnasol ar ffeil.
Archwiliadau’r Swyddfa Cofnodion Troseddol
- Bydd rhai cyflogwyr am wirio p’un a oes gennych chi gofnod troseddol ai peidio. Bydd yn rhaid ichi ddatgelu unrhyw euogfarnau os ydych chi’n ymgeisio am swydd:
- fel cyfrifydd neu fargyfreithiwr
- gyda'r heddlu
- sy’n golygu gweithio gyda phlant neu oedolion sy’n agored i niwed
- sy’n gysylltiedig â gweinyddu ym meysydd cyfiawnder neu reoleiddio ariannol.
- Mae’n rhaid bod cyflogwyr wedi cofrestru â’r Swyddfa Cofnodion Troseddol i gynnal archwiliadau cofnodion troseddol. Codir tâl am hyn, a gall y cyflogwr ofyn i chi ei dalu.
Tynnu cynnig swydd yn ôl
- Gall gyflogwr dynnu cynnig swydd yn ôl, hyd yn oed ar ôl ichi ei dderbyn, os ceir canlyniadau anfoddhaol i unrhyw archwiliad, cyn belled â’u bod wedi rhoi gwybod ichi mai amodol oedd y cynnig cyn ichi ei dderbyn.
Materion yn ymwneud â diogelu data
- Dim ond gwybodaeth sy’n angenrheidiol ac yn berthnasol i’r archwiliad y maen nhw am ei gynnal y dylai’ch cyflogwr ei cheisio.
- Bydd yn rhaid i’ch cyflogwr hefyd wneud yn siŵr fod unrhyw ddefnydd a wneir o wybodaeth bersonol amdanoch chi’n cydymffurfio ag egwyddorion Deddf Diogelu Data 1998.
- Dylid cadw’ch cofnodion cyflogaeth yn ddiogel ac, os na chânt eu cadw’n unol â gofynion statudol, dylid eu gwaredu’n ddiogel pan fyddwch chi'n gadael eich cyflogwr. Mae gennych chi hawl i weld unrhyw wybodaeth sy’n cael ei chadw amdanoch chi.
- Mae'n rhaid i gyflogwr adael ichi weld y wybodaeth yma cyn pen 40 diwrnod o ddyddiad eich cais i'w gweld, a chaiff godi ffi o hyd at £10 arnoch chi.