Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Dechrau gwaith » Pa oed alla' i ddechrau gweithio
- Ni chewch chi weithio amser llawn hyd nes eich bod chi'n hŷn nag oedran ysgol gorfodol. Mae rhywun yn peidio â bod o oedran ysgol ar ddyddiad swyddogol gadael yr ysgol. Y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin y flwyddyn ysgol y byddwch chi'n cael eich pen-blwydd yn 16 oed yw hwn.
- Fodd bynnag, bydd llawer o bobl ifanc sydd dal yn yr ysgol yn gweithio yn eu hamser hamdden er mwyn ennill ychydig o arian. Y swyddi mwyaf poblogaidd yw gweithio rhan amser mewn siop neu wneud rownd bapur.
- Mae yna reoliadau llym ynghylch yr oriau y cewch chi eu gweithio, y math o waith y cewch chi ei wneud a'r oedran ieuengaf y cewch chi weithio.
- Yn anffodus, mae gormod o achosion lle mae pobl ifanc o oedran ysgol wedi cael eu cyflogi'n anghyfreithlon neu'u hecsploetio.
- Bydd rhai pobl ifanc yn gweithio ar gyflog isel iawn neu am oriau hir iawn. Yn ei dro, gall hyn effeithio ar eu hastudiaethau, eu bywyd gartref, eu hiechyd a'u diogelwch.
Dechrau gweithio - beth mae'r gyfraith yn ei ddweud?
- Er mwyn arbed pobl ifanc rhag cael eu cam-drin a'u hecsploetio yn y gwaith, mae'r gyfraith yn rheoleiddio'r amodau gweithio sylfaenol ar gyfer pobl ifanc o oedran ysgol.
- Y brif ddeddf gyfreithiol yw Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933.
- Mae'r ddeddfwriaeth yn effeithio ar bob unigolyn ifanc o oedran ysgol. Mae rhywun yn peidio â bod o oedran ysgol ar ddyddiad swyddogol gadael yr ysgol. (Y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yw hwn). Mae hyn yn ystod y flwyddyn ysgol y byddwch chi'n cael eich pen-blwydd yn 16 oed.
- Mae Deddf 1933 yn rhoi grym i awdurdodau lleol lunio is-ddeddfau a fydd yn cyfyngu ymhellach ar oriau ac amodau gwaith pobl ifanc, a'r math o waith y mae ganddyn nhw hawl i'w wneud. Gall yr is-ddeddfau yma amrywio ychydig o ardal i ardal, yn arbennig o ran y mathau o swyddi y mae gan bobl ifanc hawl i'w gwneud.
- Fel rheol, chewch chi ddim gweithio os ydych chi dan14 oed, ond efallai y gall pobl ifanc 13 oed wneud gwaith sydd wedi'i gymeradwyo gan is-ddeddfau'r awdurdodau lleol. Dim ond 'gwaith ysgafn achlysurol' y cewch chi ei wneud. Mae hyn yn cynnwys:
- gwaith amaethyddol
- dosbarthu papurau newydd
- gweithio mewn siop, caffi, salon, swyddfa
- gwaith domestig mewn gwestai
- gweithio mewn stablau marchogaeth
- golchi ceir â llaw mewn lleoliad preswyl
- Nid yw pobl ifanc rhwng 14 oed ac oedran gadael yr ysgol yn cael gwneud y swyddi canlynol:
- gweithio mewn ceginau masnachol
- gweithio ar gae ffair, mewn sinema, arcêd, theatr, tafarn, disgo a chlwb nos
- gweithio mewn siop gigydd a lladd-dy
- gweithio mewn ffatrïoedd, pyllau, chwareli ac yn y meysydd adeiladu a
- gweithgynhyrchu
- casglu arian o ddrws i ddrws
- gwerthu neu ddosbarthu llaeth, alcohol, tanwydd, olewau
- casglu sbwriel
- gweithio mewn swydd sy'n golygu'ch bod chi'n gweld deunydd sydd i oedolion yn unig
gwerthu dros y ffôn
- gwaith ar uchder sy'n uwch na 3m e.e. glanhau ffenestri
- gofal personol e.e. cartrefi preswyl, os nad oes oedolyn yn goruchwylio
- trin llwythi peryglus, glanhau peiriannau, gwaith lle gallech chi ddod i gysylltiad â chemegau
- dim ond y rheiny sy'n 14 oed neu'n hŷn sy'n cael masnachu ar y stryd (gweithio ar stondinau marchnad), cyn belled mai eu rhieni'n sy'n eu cyflogi, a bod ganddyn nhw drwydded gan yr awdurdod lleol
- unrhyw waith yn ystod y nos.
- Mae'n rhaid ichi beidio â gweithio:
- cyn 7am ac ar ôl 7pm
- yn ystod oriau ysgol
- mwy na dwy awr ar ddiwrnod ysgol
- mwy nag awr cyn i'r ysgol ddechrau
- mwy na dwy awr ar ddydd Sul
- os ydych chi dan 15 oed, chewch chi ddim gweithio am fwy na 5 awr ar ddydd Sadwrn neu unrhyw ddiwrnod yn ystod gwyliau'r ysgol
- os ydych chi'n 15 oed neu'n hŷn, chewch chi ddim gweithio am fwy nag 8 awr ar ddydd Sadwrn neu unrhyw ddiwrnod yn ystod gwyliau'r ysgol
- mae'n rhaid ichi gael pythefnos o seibiant heb weithio yn ystod cyfnod yn y flwyddyn pan nad oes yn rhaid ichi fynd i'r ysgol
- mae yna egwyl gorffwys statudol o awr i bobl ifanc sy'n gweithio am 4 awr neu fwy.
- Mae pobl ifanc sy'n cael eu talu i gymryd rhan mewn chwaraeon, neu weithio fel model, yn dod dan ddarpariaethau trwyddedu arbennig. Ar hyn o bryd mae'r rhain yn cynnwys pobl ifanc ym myd adloniant.
- Yn ôl pob is-ddeddf, mae'n rhaid i gyflogwyr sy'n dymuno cyflogi pobl ifanc o oedran ysgol gofrestru â'r awdurdod addysg lleol a gwneud cais am drwydded weithio ar gyfer y person ifanc.
- Os ydych chi dan 16 oed, nid oes yn rhaid ichi dalu cyfraniadau yswiriant cenedlaethol ac ni fydd yn rhaid ichi dalu treth incwm hyd nes eich bod chi'n ennill mwy na £4,195 y flwyddyn.
- Pan fyddwch chi'n hŷn na'r oedran ysgol gorfodol, cewch chi weithio amser llawn.




