Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Fy Mreuddwyd
Rhaid i bawb ddweud hyn rywbryd yn eu bywydau. Mae gennym i gyd freuddwydion ac uchelgais am sut yr hoffem i’n gyrfa fod a beth yw ein nodau mewn bywyd.
Sut ydych chi’n gwybod a yw eich breuddwydion yn realistig ac a fyddwch fyth yn cael y swydd honno yr ydych yn breuddwydio amdani? Os nad ydych yn sicr sut i gyrraedd eich nodau neu a fyddai’r swydd yr hoffech ei gwneud yn addas i chi, mae digon o gyngor a gwybodaeth ar gael i’ch helpu.
Gallech siarad â Gyrfaoedd Cymru; maent yn darparu gwybodaeth am ddim am yrfaoedd a chyngor i bobl o bob oed ac mae gan bawb hawl i gyfweliad am ddim gydag Ymgynghorydd Gyrfaoedd.
Pan fyddwch yn yr ysgol neu’r coleg gallant hefyd roi sgwrs yn gysylltiedig â gyrfaoedd i’ch dosbarth neu grwp tiwtor. Yn ogystal ag Ymgynghorwyr Gyrfaoedd mewn ysgolion a cholegau, mae gan Yrfaoedd Cymru rwydwaith o Ganolfannau Gyrfaoedd ar draws Cymru lle gallwch alw i mewn am wybodaeth a chyngor.
I edrych ar wybodaeth am yrfaoedd am wahanol swyddi dilynwch y ddolen isod i careerswales.com ac edrychwch ar yr adran Sylwadau am Yrfaoedd am gannoedd o daflenni y gellir eu hargraffu am swyddi a’u gofynion. O Astronot i Geidwad Sw byddwch yn gallu darganfod popeth sydd angen i chi ei wybod. Mae hyd yn oed cwis Darganfod Gyrfa a fydd yn eich helpu hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw syniad beth y dymunwch fod!
Sefydliadau
-
Careers Wales Cardiff and Vale : Youth Guidance Services
We provide free information and advice for young people and adults on careers, qualifications, courses, training, applying for jobs, preparing for interviews and self employment. We hold vacancy information on jobs and......




